15.10.12
Diolchgarwch. Hydref 14.'12
Daeth cynulleidfa dda ynghyd ar fore Sul, mewn tywydd ffafriol
, i ddathlu Diolchgarwch y Capel.
Roedd y ffenestri oddi mewn wedi eu haddurno'n ddeniadol a phwrpasol, a daeth y plant 'mlaen a llwyth o ffrwythau a llysiau i'w dosbarth ymhlith ein henoed ar y Llun canlynol. Dyna orchwyl bleserus i'r chwaer Rachel Arnold a'r Parchedig.
Lluniwyd yr oedfa ar thema diolch am ein synhwyrau - clyw, blasu a.y.y.b. a chymrwyd ran gan tua 17 o'n ieuenctid. Y berson wrth gefn y rhaglen oedd Gaynor Parry, gyda Heulwen Rees yn ei chynorthwyo.
Wedi'r oedfa aeth y mwyafrif i'r Festri i fwynhau pryd o fwyd blasus, ac i gymdeithasu.
Fe welir boddhad ar yr wynebau yn y lluniau. Megan a Sion mewn sgetsh bwrpasol; Gaynor yn sylwebu; rhai o'r teuloedd ifanc; yr arddegau yn closio at eu gilydd: pobol wrth y byrddau.
Do bu'n amser hyfryd a phawb yn mwynhau cwmniaeth o dan fendith a heddwch y Capel.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment