20.5.15
Oedfa i'r Cleifion
Gwelwyd aelodau o'r Capel yn mynd i Ysbyty gymunedol Glanaman erbyn hanner awr wedi un brynhawn Sul Mai 17, i gynnal oedfa. Bydd oedfa yno unwaith bob mis a gwahanol gapeli o'r cwm yn cymryd rhan. Roedd gennym aelod yno y tro hwn - sef y Chwaer Evelyn Morgans, a balch oedd hi ein gweld. Roed ein organnydd Eirwyn Richards wrth y piano, Caitlin Rees yn darllen o'r ysgrythur, ag Yvette McKenzie ag Emrys Griffiths yn cyhoeddu'r emynau. Yn arwain yr oedfa oedd ein Gweinidiog. Nododd y bu raid i'r Iesu gael help i gario ei groes, ac felly ninnau pan fyddwn mewn gwendid yn gorfod dibynnu ar eraill- y meddygon a'r nyrsis yn y cyswllt hwn.
Dyma Evelyn rhwng Caitlin a Mike.
18.5.15
Darllenathon a Phwdin!
Nos Wener, Mai 15, bu aelodau wrthi'n darllen llyfr y Diarhebion. Fe gymrodd ddwy awr a phum munud i 19 fynd drwy'r 31 pennod. Yna aeth pawb ir Festri i fwynhau Pwdin a Phaned. Llwyddwyd i godi dros £650 mewn ymateb i apel Cymorth Cristnogol ar ran trychineb Nepal. Gwelwch yn y lluniau isod rai o'r darllenwyr, yna pobol yn mwynhau wrth y byrddau, a phedair oeddent yn gweini-Nia,Janet,Gwenda a Christine.1
1.3.15
Dathlu dydd Gwyl Dewi
Mawrth y cyntaf; Trodd yn tywydd yn garedig i ganiatau i dros 60 i ddod i'r dathlu. Cafwyd darlleniadau addas gan Jayne Picouto a gweddiau gan Janet Jones. Yna braslun diddorol o fywyd ein nawddsant gan Heulwen Rees a Gaynor Parry, trefnwyr y bore, cyn ein bod yn cael cyfranidau'r plan, pob un yn werth ei glywed. Ymlaen wedyn at y Cymundeb gyda 48 yn Cymuno cyn mynd i'r Festri i fwynhau cymdeithas dros fowlen o gawl blasus, bara brith, pice bach a phaned o de. Wrth yr organ oedd ein ffyddlon Eirwyn Richards. Gobeithio y medrwch ddal awyrgylch hapus y bore drwy'r lluniau yma.
1.2.15
Sul Prysur
Oedd yn wir, 'roedd oedfa Gymun ar y cyntaf o Chwefror yn un hwylus a llawn gweithgaredd. Cyn gweinyddu'r Cymun cyflwynwyd siec o £500 i Ms Wendy Evans - cynrychiolydd y British Heart Foundation yn yr ardal. Cafwyd esboniad ganddi o waith yr elusen yn ein cylch. Roedd hyn yn addas iawn oherwydd i ddau o'nhaelodau - y brodyr Huw Lewis a Rowland Jones elwa o driniaeth ar y galon yn gymharol ddiweddar.
Yna derbyniwyd y chwaer Avril Beynon (merch yng nghyfraith y diweddar Barchg Islwyn Beynon - fu'n weinidog Carmel a Llandyfan) yn aelod. Hefyd ei merch y Dr Lisa (Beynon) Hewitt - in absentia. Y mae Lisa'n feddyg yn Llundain ond cawn ei chwmni ar ei hymweliadau cyson a'i mam yn Rhydaman.
Roedd ymwelydd yn haeddu sylw- sef y brawd Emrys Griffiths sydd wedi dod i'n plith i fyw yng Nghwmfferws. Gobeithio y cawn ei gwmni mewn oedafon y dyfodol.
Yn olaf cadarnahwyd y chwaer Margaret Holmes yn Ysgrifenydd Ariannol y Capel, gan y gynulleidfa - dros 52 ohoni. Dyma ferch o deulu sydd wedi gwasanaethu'r Capel ers blynyddoedd - roedd ei thad yn ddiacon a'i mam yn gofalu am fara'r Cymundeb, rhywbeth y mae Maragaret wedi ei gario mlaen er dros 40 mlynedd.
Oedd, 'roedd yn oedfa fendithiol er i ni gael ein sobri gan gyfeiriadau'r Gweinidog at Auschwitz a dyfnderodd llygredd calon dyn.
Yn y llun gwelwch Wendy yn derbyn y siec gan Janet Jones- ein trysoryddes, a'n Gweinidog.
Subscribe to:
Posts (Atom)