Capel Saron Rhydaman
Gweinidog: Y Parchg E. Lyn Rees, B.A., B.D.

Diaconiaid:
Y Chwiorydd: Gaynor Parry; Jane Picouto; Rachel Arnold; Janet Jones; Gwenda Easton; Christine Rees.

Y Brodyr: Dewi Daniel; Osian Rees; Rowland Jones.

Swyddogion:
Ysgrifennydd: Gaynor Parry
Trysorydd: Janet Jones
Ysgrifennydd Ariannol: Margaret Holmes
Ysgrifennydd y Fynwent: Rowland Jones
Cyhoeddwyr: Dewi Daniel a Rachel Arnold
Organyddion: Eirwyn Richards a Rosanne Williams

Swyddogion y Chwiorydd: Gaynor Parry (Ysg) a Heulwen Rees (Trys)

Swyddogion yr Ysgol Sul: Gaynor Parry (Ysg) a Heulwen Rees (Trys)

Swyddog Iechyd a Diogelwch: Brynmor Thomas

Trefnydd Rhestr Flodau: Margaret Holmes

Gofal y Gronfa Gymdeithasol: Rachel Arnold

OEDFAON
Oedfa'r Sul am 10.30 o'r gloch y bore.
Cymundeb ar fore Sul cyntaf bob mis.
Cwrdd Gweddi nos Lun olaf y mis am 7.00



12.12.13

Cyngerdd Nadolig yr Ysgol Feithrin

Nos Fawrth y ddegfed o Ragfyr tyrrodd tyrfa i Gapel Saron i fwynhau cyngerdd flynyddol plant yr Ysgol Feithrin. Bydd hon yn cyfarfod yn gyson yn Festri yr Hen Gapel a saif o fewn ychydig lathenni o'r prif adeilad. Cafwyd hanner awr hudol gan y bychain. Rheini wedi eu gwisgo yn Nadoligaidd ac yn canu ac yn adrodd, rhwng gweld mam a dad, dadcu a mamgu - a chwifio a gwenu arnynt! Wedi'r adloniant a foddhaodd bawb, roedd croeso i'r Festri am baned, "hot dog" a chyfle hefyd i brynu ambell anrheg. Tu cefn i'r llwyddiant 'roedd Annette - Arweinyddes yr Ysgol a'i Thim brwdfrydig a gweithgar. Yn y llun gwelir hwy yn y drefn yma. Yn y cefn or chwith i'r dde - Meinir Jones, Sharon Page, Susan Betton,Amanda Griffiths. Ac yn y rhes flaen, eto or chwith i'r dde - Sharon Walters, Annette Price, Teresa Ellsomore. Bydd llun y plant yn rhoi blas bach ar y noson i chi.

10.11.13

CADOEDIAD CAPEL SARON

Bore Sul Tachwedd 10fed, a'r haul yn gwenu daeth cynulliad o tua 150 i Gapel Saron i gadw'r ddefod o gofio aberthau rhyfeloedd byd a gweddio am ddyfodol di-ryfel. Arweiniwyd y cyfarfod gan ein Gweinidog a chafwyd anerchiad rhagorol gan Lt. Emilly Jordan, Byddin yr Iachawdwriaeth Rhydaman. Wrth yr organ oedd y chwaer Roseanne Williams; chwareuwyd y trwmped ar gyfer y "Last Post" a'r "Reveille" gan Huw Thomas, a chyhoeddwyd y geiriau cyfarwydd "They shall not grow old..." gan Major Ken Burton. Darllenwyd o'r Hen Destament gan Anne Owen - Eglwys Dewi Sant Saron, ac o'r Testament Newydd gan Catrin Clarke ar ran y Capel. Cynorthwywyd y Gweinidog i dderbyn y baneri yn y Capel gan D.Gwyn Davies -Eglwys Dewi Sant. Gwnaed casgliad ar gyfer y "British Legion" a chroesawyd nifer dda o fudiadau lleol. Gosodwyd 13 o rithiau wrth y gofeb. Yn y lluniau gwelwch y Gweinidog a D.G.Davies yn derbyn y baneri yn y Capel. Yna Catrin yn darllen. Lt Jordan yn cyflwyno ei hanerchiad. Y baneri'n cael ei gostwng i swn y "Last Post." Y "Brownies" ar eu ffordd i osod eu rith, a'r brawd Dewi Daniel yn gosod rith y Capel, a'r gofeb a'r rithiau arni.

8.11.13

Shwl-di-Mwl

Daeth y cwmni "Shwl-di-Mwl" ag amrywiaeth o ddillad plant i sioe ffasiynau gynhaliwyd yn Ysgol Gynradd Saron Rhydaman nos Iau Tachwedd 8fed. Pwyllgor lleol, o dan arweiniad Shirley Taylor oedd wedi trefnu hyn, ymhlith nifer o ddigwyddiadau diddorol eraill i godi arian ar gyfer 'Steddfod Genedlaethol Sir Gar i'w chynnal yn Llanelli yn 2014. Plant yn perthyn i Gapel Saron ac i'r ysgol oedd y modelau. Ar ddiwedd noson hynod lwyddiannus roedd cyfle i bobl brynu neu archebu dillad, a mwynhawyd
gwin a "cup cake" gan bawb cyn troi am adref. Diolch i'r brawd Owen Young am ddod a'i gynnyrch i'w arddangos er budd achos teilwng. Yn y lluniau gwelwch rai o'r ifanc fuont yn cerdded "Rhodfa'r-Gath"(Cat Walk) i ddangos y dillad.

4.11.13

CROESO ADREF

Ar Sul Tachwedd 3ydd gwelwyd y Dr Eiddon Davies ai briod Heather yn ymuno a Chapel Saron fel llawn aelodau. Cyn ymddeol bu Dr Davies yn feddyg yn Killay ger Abertawe. Mae'n fab i'r enwog Agnes Davies, pen campwriag snwcer Prydain yn ei dydd, ac yn aelod ffyddlon o'r Capel fel ei phriod Dick Davies. Y mae gan Eiddon a Heather ddau o blant a phump o wyron. Dymunen yn dda iddynt ac edrychwn ymlaen at ei cmwni yn yr addoliad am flynyddoedd i ddod. Daeth un arall adref yn yr un oedfa, sef Mr Brynmor Thomas un o feibion ffermdy Cwmbach Saron. Bu mam Brynmor byw hyd at ei 101, ac y mae cysylltiadaur teulu yn rhai chynnes a chlos iawn a'r Capel. Y mae yntau yn dad i un merch ac yn dadcu. Hyderwn gael llun ohono yntau maes o law, Ond y tro hwn
Dr Davies ai wraig sydd yma. Bendith arnynt i gyd.

16.10.13

Diolchgarwch Ysgol Gynradd Saron Rhydaman

Bore dydd Mercher Hydref 16eg gwelwyd Capel Saron dan ei sang. Roedd Ysgol Gynradd y pentref yn cynnal ei hoedfa Ddiolgarwch flynyddol. Dim ond y dosbarthiadau isaf oedd wrthi, a gwahoddwyd eu teuluoedd i fod yn bresennol i fwynhau a derbyn bendith o weinidogaeth y bychain hyn. Yn ymuno a hwy gwelwyd chwech o Gylch Meithrin Saron, sy'n cyfarfod yn yr Hen Gapel. Byddant hwy yn symud i'r "Ysgol Fawr" yn ystod y tymor nesaf. Cafwyd oedfa ystyrlon ar y thema Lliwiau, a phob plentyn yn dweud gair ac ymuno yn y canu. Un o uchafbwyntiau'r cyfarfod oedd stori gan y chwaer Einir Jones (bardd Coronog a chyn athrawes yn Ysgol Gyfun Dyffryn Aman). Tynnodd sylw at hadau, a'r ffrwythau fydd yn dod ohonynt. Pwysleisiodd yn ddealladwy iawn ein dibyniaeth ar Dduw a'n cyfrifoldeb o stiwardio'r hyn roddwyd yn ein ein gofal. Daeth y sesiwn i ben gyda Bendith draddowdwyd gan y Parchg E. Lyn Rees a gymrodd gyfle i wahodd rhieni i anfon eu plant i Ysgol Sul y Capel. Tynnodd sylw hefyd at ddyled yr ardal i bennaeth yr Ysgol - sef Mrs Gwenda Easton a'i staff ymroddedig, a cawsant gymeradwyaeth haeddiannol. Yn y lluniau gwelir Mrs Easton yn y pulpud, rai o'r plant wrth eu gwaith, Mrs Einir Jones yn traddodi ei neges gan ddefnyddio Power Point, ac
un o addurniadau blodeuog welid ar y ffenestri.

22.7.13

GWOBRWYO LLWYDDIANT

Bob blwyddyn bydd y Capel yn cynnig gwobr i blentyn yn Ysgol Saron, sy', yn ol barn y Brifathrawes Gwenda Easton, wedi datblygu fwyaf mewn ystod eang yn ei gyfnod yn yr ysgol. Elenni roedd raid' rhannu'r wobr. Felly, ar fore teg gwelwyd ein Gweinidog yn mynd yn ysgafn droed i gyflawni'r gorchwyl pleserus hwn. Dylid dweud ei fod yn gyfarwydd a'r Ysgol ac heb felly fod yn ddieithr i'r plant, caiff y fraint o gynnal gwasanaeth yno bob mis. Jed Anthony o ddosbarth 6B a Celyn Oxenham o ddosbarth 6A welir yn y llun gyda Mrs Easton a'r Gweinidog. Pleser bob amser gan y Capel yw cefnogi a dangos mewn dull ymarferol werthfawrogiad o ymdrechion plant yr ardal.

16.7.13

BARBECIW'R CAPEL

Gwawriodd Sul gorffennaf 14eg yn hafaidd braf. Diolch mawr, oherwydd dyna fore Barbeciw flynyddol y Capel. Yn gyntaf cafwyd oedfa - stori i'r plant yn adrodd hynt aderyn mor mewn trafferthion ar lannau Bae Trearddur y Ynys Mon. Yna anerchiad ar y thema o safonau gan gyfeiro at Grist fel ein patrwm a'n mesur ar gyfer bywyd. Allan wedi'n i haul hyfryd ac i'r Festri oedd wedi ei pharatoi ar gyfer y bwyd. Chware teg bu dau wrthi'n chwysu uwch y tan i baratoi pob darn o gig yn fres ar ein cyfer - os ennillodd rai bwysau yn sicr i Paul Thomas a John McWilliam golli mwy nag owns yn gwres - hwnnw o'i blaen ac uwch eu pennau! Bore hapus o gymdeithasu iach. Yn y lluniau canlynol fe welwch y mwynhau wrth y byrddau.

22.4.13

CYNGERDD ELUSEN DEMENTIA

Nos Sul Ebrill 21ain, am saith, cynhaliwyd Cyngerdd yn y Capel i godi arian at waith Elusen Dementia yn Nyffryn Aman. Bu'r paratoi yn brysur ac yn drylwyr. Gosodwyd posteri, gwerthwyd tocynnau a sicrhawyd gwasanaeth parod a rhadlon Cor Persain o dan ei arweinydd Anne Weldon, cor plant Ysgol Gynradd Saron o dan arweiniad Karen Evans, a Quintet Pres Nils Richards. Boddhawyd tyrfa gref gan yr eitemau a chafwyd eglurhad gan Mrs Dorothy McDonald o'r gwaith wneir gan yr Elusen yn y Cwm. Pwysleisiodd bod y clefyd hwn ar gynnydd yn ein plith a bod y paratodau ar gyfer ei wynebu yn brin ac annigonol. Awgrymodd bod gennym lawer i ddysgu oddi wrth yr Alban, sy' mae'n debyg, ym mhell o'n blaenau yn y frwydr. Ar y noson da oedd cael cwmni'r chwaer Sian Thomas, Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin, ai phriod David, ynghyd a Mrs Rosemary Cole Trysorydd yr Elusen. Yn un o'r lluniau gwelir ein Gweiniodg yn cyflwyno siec o £977.00, sef elw'r noson i Mrs McDonald.

4.4.13

Cymundeb y Pasg. Gwelwyd llewyrch eto ar yr oedfa bwysig hon yng Nghapel Saron, gyda dros ddeugain o addolwyr yn bresennol. Nododd y Gweinidog mai angen pobol Gristnogol sydd ar y byd nid pobol grefyddol. Nid yw hanes rheini yn persawru pa grefydd bynnag y perthynant iddi. Prin bod angen dadlau'r pwynt yna! Pregeth mewn Pren: Gosodwyd croesbren sylweddol ar lawnt flaen y Capel wythnos y Pasg. Ei diben yw tynnu sylw at yr adeg bwysig hon ym mywyd yr Eglwys a'i neges o gariad aberthol Duw tuag at y byd.

8.3.13

Prysurdeb Mis Mawrth. '13

Gosodwyd mainc bren hardd wrth fynediad yr Hen Gapel er cof am y diweddar frawd Edgar Dent(1936-2011). Bu ef yn aelod blaenllaw iawn o Glwb y Llewod, Rhydaman, a rhoddwyd y fainc ganddynt er parch iddo. Yn eistedd arni gwelir y brawd Rowland Jones - Diacon yn y Capel, ac yn sefyll wrth ei gefn y mae'r brawd Wynne Williams, Trysorydd y Capel. Gwyl Dewi: Elenni syrthiodd Mawrth y cyntaf ar ddydd Gwnener, ond dathlwyd ein nawddsant Dewi yn y Capel ar y Sul canlynol gyda oedfa o ddarlleniadau a gweddiau addas yn cael'n eu trosglwyddo'n effeithiol gan ieuenctid y Capel. Yna cawsom ein Cymundeb arferol - gyda 56 yn Cymuno cyn mynd i lawr i'r Festri am fowleni o gawl blasus a chymdeithas wresog. Gwelir Harri Holmes yn un or lluniau ac yna rhai o'r rheini wrth y byrddau. Eisteddfod Ysgol Gynradd Saron: Cynhaliwyd hi ar Fawrth yr wythfed yn y Capel. Heb amheuaeth bu'n llwyddiant mawr - diolch i athrawon ymroddgar yr Ysgol o dan arweiniad y Pennaeth Gwenda Easton. Gyda defod effeithiol gwelwyd Cerys Lloyd yn cael ei chadeirio i fanllefain y dorf. Cafwyd gystadlu brwd ar bob lefel a'r plant yn eiddgar gefnogi eu gwahanol lysoedd. Dyma i chi baratoi a thrwytho Eisteddfodwyr y dyfodol.