Rhaid ymddiheurio, ond fe ddaw lluniau ein Cyngerdd ar nos Sul Rhagfyr yr 8fed nes ymlaen - "technical hitch!" Ta waeth am hynny dyma flas bach, bach, ar rai o ddigwyddiadau eraill y tymor - e.e. Harri a Nel yn pwslan os oeddent i ganu neu beidio ar fore Sul cyn y Nadolig. Yna rhan o'r dyrfa ar Gymundeb naw ar fore Nadolig - dros 50 yn bresennol a 45 yn Cymuno:
27.12.16
5.12.16
Paratoi am y Nadolig
Diolch am ferched talentog. Dyma i chi beth o'i gwaith - wedi bod wrthi'n addurno'r sils ffenestri gan gynryd carol fel thema. Mae yma edrych ymlaen at y Gyngerdd Flynyddol nos Sul nesaf am hanner awr wedi chwech . Bydd pob elw yn mynd i apel Ysbyty Gymunedol Glanaman am beiriant X RAY:
15.11.16
LLUNIAU O'R CADOEDIAD
Dyma rai lluniau o'r Cadoediad yn y Capel ar Sul Tachwedd 13. Gwelir y Gweinidog a'r brawd Mr D. Gwyn Davies yn derbyn baneri - British Legion a'r A.T.C, Cor Persain, yna y biwgler Huw Davies a Major Ken Burton adroddodd y geiriau "They shall not grow old..." a'r Gweinidog a Mr Davies yn darllen rhestr y rhai a gollwyd.
13.11.16
Cadoediad
Ar fore braf o Hydref daeth cynulleidfa o dros gant i'r Capel ar gyfer ein Cadoediad blynyddol. Yn bresennol oedd ein gwleidyddion lleol - Alun Davies a Peter Cooper, y British Legion a'r A.T.C. Yn newydd oedd presennoldeb cor merched - "Persian" o dan ei harweinydd medrus Anne Wheldon ar cyfeilydd Catherine Morgan. Cawsom ddau ddarn addas iawn i'r achlysur greodd awyrgyll ddwys a myfyrgar. Darllenwyd ar ran Eglwys Dewis Sant, Saron, gan Anne Owen ac ar ran y Capel gan Fion Clarke. Y cyntaf yn Saesneg ar ail yng Nghymraeg. Cafodd y Gweinidog help i dderbyn baneri a darllen y rhestr enwau wrth yr Ardd Goffa gan y brawd D Gwyn Davies. Y trympedwr oedd Huw Thomas a'r brawd Ken Burton adroddodd y geiriau - "They shall not grow old..." Gosodwyd 11 o rithau gan gynrhychiolwyr mudiadau'r ardal. Daliodd y Gweinidog sylw'r gynulleidfa drwy dynnu sylw at Faniffesto Crist fel Cadfridog - Luc 4: 18-19. Cadfridog oedd yn barod i farw dros ei ganlynwyr. Nododd hefyd eiriau Paul yn Ephesiaid 6:16-18 a'r angen dwys ar i'r credadyn wisgo'r holl arfogaeth ddwyfol yn y frwydr yn erbyn pwerau'r tywyllwch.
Nos Fercher nesaf, rhwng hanner awr wedi chwech ag wyth bydd gan y Capel noson 'Paned a Chacen' i godi arian ar gyfer apel Cymorth Cristnogol -"Cofiwch y Fam" Gobeithiwn y medrwn lawr lwytho lluniau o'r ddau achlysur yn ein Blog nesaf.

7.11.16
Cais am Weddi
Ddoe yn ein hoedfa Gymundeb mentrwyd ar arbrawf syml. Rhoddwyd blwch copr bach ar hambwrdd yn y lobi, ac wrtho gardie a biro. Gwahoddwyd yr aelodau ysgrifennu enw unrhyw un yr hoffent fod yn wrthych gweddi yn ystod yr oedfa. Ni fyddai neb ond hwy yn gwybod pwy oherwydd myfyrdod tawel fyddai'r gweddio gyda'r organ yn chware darn pwrpasol fel cefndir. Cymrodd rhai y cyfle. Teimlwn y bydd yr arfer hwn yn raddol ennill ei le ac yn dod yn rhan o batrwm ein haddoliad. Yn y llun fel welwch y blwch a'r hambwrdd etc.
Mae pawb yn edrych ymlaen at y Sul nesaf pan gynhaliwn ein hoedfa Gadoediad flynyddol. Y tro hwn bydd gennym gor Persain yn canu. Mae'n siwr y byddont yn ychwangeu at y awyrgylch dwys y gwasanaeth.
Mae pawb yn edrych ymlaen at y Sul nesaf pan gynhaliwn ein hoedfa Gadoediad flynyddol. Y tro hwn bydd gennym gor Persain yn canu. Mae'n siwr y byddont yn ychwangeu at y awyrgylch dwys y gwasanaeth.
25.10.16
Penwythnos Aberfan
Bu penwythnos Hydref 21 yn un dirdynnol i deuluoedd Aberfan. Ail fyw, wedi hanner canrif, chwerwder y golled fawr ddaeth yn sgil esgeulusod amryw ynglyn a tip rhif 7 uwchben ysgol Pantglas. Maes o law nodwyd y Bwrdd Glo yn gyfrifol am y gyflafan, er na chafodd neb ei erlyn na cholli swydd. Tynnodd un aelod o'r Capel ein sylw at arwyddocad y dyddiad sef 21:10:1966. O'i adio 21+10+19+66 ceir y rhif 116! Union nifer y plant a laddwyd gan y slyri didrugaredd. Hynod ynte. Yn ein hoedfa'a'r y Sul nodwyd y golled drwy pawb yn sefyll am funud o dawelwch. Rhyfedd pa mor hir gall munud felly fod. Gobeithio fod gwersi wedi cael eu dysgu o'r hyn a ddigwyddodd ac a dynnodd ddagrau byd a betws.
10.10.16
Diolchgarwch Hydref 9fed 2016
Ar fore Sul oerllyd ond heulog gwelwyd cynulleidfa raenus yn y Capel yn dathlu ein Diolchgarwch. Trefnwyd yr oedfa gan Gaynor a Heulwen ar y thema o Yd a Bara yn y Beibl, a chymrwyd y darllen gan Christine a'r weddi gan Gwenda. Mwynhawyd adroddiad Harri bach o "Tu nol i'r dorth mae'r blawd..., " yna Mari yn canu "Dod ar fy mhen dy sanctaidd law..." a hynny'n ddigyfeiliant am i'r peiriant miwsig fethu!
Roedd gwynt paent yn gryf yn y Capel oherwydd bod gwaith adnewyddu'n dal i fynd - gwerth ei ddioddef. Soniodd y Gweinidog am daten - bod rhaid ei rhoddi yn y pridd er mwyn iddi esgor ar ragor. Felly aelodau - rhaid mynychu achles oedfa os am ddenu aelodau newydd.
Os oedd braidd yn sythlyd yn y Capel - yr hen foiler druan yn disgwyl triniaeth - roedd digon o wres yn y Festri. Cafodd pawb yno ei gwala o fwyd a mwynhau cymdeithas hwylus a gwresog. Mae'r lluniau yn rhoi blas i chi o'r achlysur. Bore dydd Marth nesaf bydd y Gweinidog a Rachel Arnold yn dosbarthu ffrwythau a blodau o'r oedfa i'n henoed (80 a throsodd) a'r rheini sy'n sal neu mewn cartrefi gofal.
Bydd unrhyw elw a wnawn yn ein gweithgareddau o hyn ymlaen yn mynd i Elusen "Cofia dy Fam" sy'n cael ei gefnogi gan ein Cymanfa.

13.9.16
Gwobr a gwaith
.
Mae'r gwaith ar y Capel yn mynd yn ei flaen - yn araf! Gwelwch yn y lluniau un o'r peintwyr wrthi ar dalcen mewnol yr adeilad.
Edrychir ymlaen at raglen y Gaeaf - gyda nifer o bethau ar y gweill - y Cwrdd Diolchgrwch a'r ginio - 9fed o Hydref.; y Cadoediad ar Dachwedd 13, Cyngerdd Nadolig ar Ragfyr 11eg.
Byddwn hefyd yn codi arian, ar gais y Gymanfa, ar gyfer Apel Feddygol Ghana. Daw mwy o fanylion ynglyn a hynny maes o law.
5.8.16
Cynnal a Chadw
OFNADWY oedd darllen am ladd yr offeiriad, Jacques Hamel, yn Ffrainc (26.7.'16) gan derfysgwr Mwslimaidd. Oherwydd hynny daeth llythyr atom oddi wrth y Llywodraeth ar i ni fod yn wyliadwrus. Gobeithio na ddaw'r fath brofiad i unrhyw le o addoliad arall.. Beth bynnag y mae gwaith y Capel yn mynd yn ei flaen - cadw'r fynwent a'r lawntydd yn daclus - fel y gwelch Dewi I.Q.P yn ei wneud yn y llun.
Yna paratoi i ail blastro talcen cefn y Capel i gadw'r glaw ar lleithder allan - am flynyddoedd i ddod - ni obeithiwn. Ie, cynnal a chadw yw'r drefn, a gwnawn hynny tra medrwn
...
Yna paratoi i ail blastro talcen cefn y Capel i gadw'r glaw ar lleithder allan - am flynyddoedd i ddod - ni obeithiwn. Ie, cynnal a chadw yw'r drefn, a gwnawn hynny tra medrwn
...
10.7.16
Y Bedydd
Drwg gennyf bod lluniau y bedydd allan o sync. Beth bynnag dyma nhw. Fe sylwch fod y Gwenidog yn cael help can y diacon Osian I Rees. Cafwyd seremoni effeithiol ac emosiynol.
4.7.16
Derbyn aelodau
Bore Sul Gorffennaf 3ydd, derbyniwyd y pedwar fedyddiwyd Gorffennaf 19eg, ynghyd a'r chwaer Annette Davies yn aelodau o'r Capel. Yn y llun gwelir o'r chwith i'r dde, David, Michael, Annette, Caitlin ac Osian.
28.6.16
Paratoi am Fedydd
Ar fore Sadwrn, Mehefin 18eg 2016 gwelwyd Caitlin Rees, Osian Clarke, David Williams a Mike Rees yn cymryd mesur o'r fedyddfan. Synnwyd hwy gan ei maint a'i dyfnder. Yfory bydd yn llawn dwr a'r awyrgylch yn wahanol iawn.
13.6.16
Sul yr Hetiau
Dydd Sul, Mehefin 5ed, cynhaliwyd oedfa pan welwyd yr aelodau yn gwisgo
hetiau. Daeth hyn yn ol ag atgofion o dyddiau pan oedd gwisgo het i'r
Capel yn arfer cyffredin. Dyma lun o rai o'r aelodau yn eu hetiau.
29.2.16
Gwyl Dewi Sant
Dathlwyd yr wyl elenni ar Chwefror 28 oherwydd bod Mawrth y cyntaf yn syrthio braidd yn lletchwith. Cafwyd cynulliad da iawn a mwynhawyd yr eitemau baratowyd gan ein Hysgol Sul o dan aweiniad y chwaer Gaynor Parry. Wedi'r oedfa aeth y mwyafrif i'r Festri i fwynhau bowlenaid o gawl blasus, Welsh cakes a bara brith. Y cyfan wedi ei gyfrannu gan yr aelodau.
Yn y lluniau isod fel welwch Harri a'i chwaer fach Amelia a Nel, ac yna Harri a Nel - hi yn ei gwisg Gymreig y tro hwn. Yna Mari a'i ffrind Katie Lee, a tri gwr sef y Dr Eiddon Daves ar y chwith, Lawrence Raison yn y canol a Keith Davies - cefnder i Eiddon. Y mae ef newydd ddychwelyd i Gymru ar ol deugain mlynedd yn Toronto. Do, cafwyd bore hapus yn cofio am ein Sant.

27.2.16
Siec i Alzheimers
Yn ystod oedfa Gymundeb ar fore Sul Chwefror y 7fed 2016 cafodd yr aelodau yr hyfrydwch o gyflwyno siec i Gwen James - cynrychiolydd yr Elusen Alzheimers. Codwyd £630 mewn cyngerdd Nadolig a rhoddion unigol ar gyfer yr Elusen. Y mae ganddi ganolfan - "Ty Perthyn"- yn Hall Street Rhydaman lle y mae cyngor a chymorth ar gael i bobl sy'n ymwneud a'r afiechyd hynod gyffredin hwn. Yn y llun gwelwch ein Trysoryddes Janet Jones (ar y chwith) yn estyn ein siec i Gwen James - o'r Elusen.
.
.
Subscribe to:
Posts (Atom)