Capel Saron Rhydaman
Gweinidog: Y Parchg E. Lyn Rees, B.A., B.D.

Diaconiaid:
Y Chwiorydd: Gaynor Parry; Jane Picouto; Rachel Arnold; Janet Jones; Gwenda Easton; Christine Rees.

Y Brodyr: Dewi Daniel; Osian Rees; Rowland Jones.

Swyddogion:
Ysgrifennydd: Gaynor Parry
Trysorydd: Janet Jones
Ysgrifennydd Ariannol: Margaret Holmes
Ysgrifennydd y Fynwent: Rowland Jones
Cyhoeddwyr: Dewi Daniel a Rachel Arnold
Organyddion: Eirwyn Richards a Rosanne Williams

Swyddogion y Chwiorydd: Gaynor Parry (Ysg) a Heulwen Rees (Trys)

Swyddogion yr Ysgol Sul: Gaynor Parry (Ysg) a Heulwen Rees (Trys)

Swyddog Iechyd a Diogelwch: Brynmor Thomas

Trefnydd Rhestr Flodau: Margaret Holmes

Gofal y Gronfa Gymdeithasol: Rachel Arnold

OEDFAON
Oedfa'r Sul am 10.30 o'r gloch y bore.
Cymundeb ar fore Sul cyntaf bob mis.
Cwrdd Gweddi nos Lun olaf y mis am 7.00



16.10.13

Diolchgarwch Ysgol Gynradd Saron Rhydaman

Bore dydd Mercher Hydref 16eg gwelwyd Capel Saron dan ei sang. Roedd Ysgol Gynradd y pentref yn cynnal ei hoedfa Ddiolgarwch flynyddol. Dim ond y dosbarthiadau isaf oedd wrthi, a gwahoddwyd eu teuluoedd i fod yn bresennol i fwynhau a derbyn bendith o weinidogaeth y bychain hyn. Yn ymuno a hwy gwelwyd chwech o Gylch Meithrin Saron, sy'n cyfarfod yn yr Hen Gapel. Byddant hwy yn symud i'r "Ysgol Fawr" yn ystod y tymor nesaf. Cafwyd oedfa ystyrlon ar y thema Lliwiau, a phob plentyn yn dweud gair ac ymuno yn y canu. Un o uchafbwyntiau'r cyfarfod oedd stori gan y chwaer Einir Jones (bardd Coronog a chyn athrawes yn Ysgol Gyfun Dyffryn Aman). Tynnodd sylw at hadau, a'r ffrwythau fydd yn dod ohonynt. Pwysleisiodd yn ddealladwy iawn ein dibyniaeth ar Dduw a'n cyfrifoldeb o stiwardio'r hyn roddwyd yn ein ein gofal. Daeth y sesiwn i ben gyda Bendith draddowdwyd gan y Parchg E. Lyn Rees a gymrodd gyfle i wahodd rhieni i anfon eu plant i Ysgol Sul y Capel. Tynnodd sylw hefyd at ddyled yr ardal i bennaeth yr Ysgol - sef Mrs Gwenda Easton a'i staff ymroddedig, a cawsant gymeradwyaeth haeddiannol. Yn y lluniau gwelir Mrs Easton yn y pulpud, rai o'r plant wrth eu gwaith, Mrs Einir Jones yn traddodi ei neges gan ddefnyddio Power Point, ac
un o addurniadau blodeuog welid ar y ffenestri.