20.5.12
Mai 20fed
Sul diwethaf bur oedfa tu allan yn yr awyr agored, a chafwyd tywydd ffafriol. Y rheswm oedd ein bod yn cynnal oedfa arbennig i ddiolch am ein hanifeiliad anwes. Rheini sy'n dod a cymaint o gysur a hapusrwyd i ni. Gwelwyd nifer dda o yn bresennol ac yn eu plith Doug a par o ieir Bantam hardd; Sion a cwningen o'r enw winwns; Brychan a Cavashaun or enw Cadi
, Megan a spaniel o'r enw Jack, Griffith a terrapin a Llyr penbyliaid. Yn rhyfedd nid oedd cath ar gyfyl y lle. Doeth efallai. Cymrwyd
rhan yn y gwasanaeth gan Dewi, Jayne, Osian a Rachel. Credir i bawb ymadael gan ddiolch ir Arglwydd am roddi creaduriad mor hyfryd yn ein gofal.
7.5.12
Sul Mai 6ed.
Gwelwyd y Parchedig yn derbyn wyth aelod, y rhai a fedyddiwyd y Sul cynt sef Catrin Clarke, Linda Davies, Ifan Rees, Sion Davies a Russell Davies, a tri oeddent yn ail gydio am eu haleodaeth yn Saron sef Maureen a Cliff Davies ag Eirwyn Richards. Rydym wedi elwa o wasanaeth Eirwyn wrth yr organ ers meityn bellach, a braf ei gael yn sefyll gyda ni.
Yn yr oedfa Fedydd cymrwyd rhan gan rai o'n haelodau ifanc - Bella, Nia, Sian, Rhodri, Iwan, Gio a Ffion.
Fe gymunodd 54 yn y Cymundeb, a gwobrwywyd y rhai fedyddiwyd a chopi dwyieithog o'r Testament Newydd. Roedd yn hyfryd cael cwmni'r Parchedig Lewis Williams yn yr oedfa, ond trist gweld bod afiechyd wedi a gyfyngu i gadair olwyn ar hyn o bryd.
Edrychwn mlaen nawr at Sul nesaf - oedfa Bendithio Anifeiliad Anwes - Pet Blessing Service!
Yn y lluniau fe welir
Catrin, Ifan, Sion a Linda.
Subscribe to:
Posts (Atom)