Capel Saron Rhydaman
Gweinidog: Y Parchg E. Lyn Rees, B.A., B.D.

Diaconiaid:
Y Chwiorydd: Gaynor Parry; Jane Picouto; Rachel Arnold; Janet Jones; Gwenda Easton; Christine Rees.

Y Brodyr: Dewi Daniel; Osian Rees; Rowland Jones.

Swyddogion:
Ysgrifennydd: Gaynor Parry
Trysorydd: Janet Jones
Ysgrifennydd Ariannol: Margaret Holmes
Ysgrifennydd y Fynwent: Rowland Jones
Cyhoeddwyr: Dewi Daniel a Rachel Arnold
Organyddion: Eirwyn Richards a Rosanne Williams

Swyddogion y Chwiorydd: Gaynor Parry (Ysg) a Heulwen Rees (Trys)

Swyddogion yr Ysgol Sul: Gaynor Parry (Ysg) a Heulwen Rees (Trys)

Swyddog Iechyd a Diogelwch: Brynmor Thomas

Trefnydd Rhestr Flodau: Margaret Holmes

Gofal y Gronfa Gymdeithasol: Rachel Arnold

OEDFAON
Oedfa'r Sul am 10.30 o'r gloch y bore.
Cymundeb ar fore Sul cyntaf bob mis.
Cwrdd Gweddi nos Lun olaf y mis am 7.00



26.12.12

Cyfnod Nadolig 2012

Bu cyfnod y Nadolig yn un prysur iawn yng Nghapel Saron. Cychwynodd pethau gyda Chymundeb Rhagfyr 2ail pan gynnwyd cannwyll gyntaf torch yr Adfent - a'n hatgofio o Broffwydi'r Hen Destament. Sul Rhagfyr 9fed - y brawd Dennis Morgan yn y pulpud gyda neges bwrpasol iawn. Cynnwyd yr ail Gannwyll - cannwyll Ioan Fedyddiwr. Rhagfyr 16eg 'roedd Gaynor Parry wedi llunio rhaglen yn cyflwyno neges y Geni drwy ohebydd yn darlledu adroddiadau ac ymatebion iddo o wahanol rannau o'r byd. Cynnau yr drydedd gannwyll - yn cynrychioli'r Forwyn Fair, cyn i bawb i'r Festri am baned a mins pei cyn troi am adref. Yn yr hwyr cynhaliwyd Cyngerdd Nadolig y Pentref - gyda darlleniadau, carolau a chynnau Canhwyllau Cariad er cof am annwyliaid gollwyd yn ystod y flwyddyn. Roedd y Capel yn llawn, a chodwyd £635 ar gyfer Shelter Cymru. Roedd cynrychiolydd o'r elusen yno - a chafwyd esboniad o'r gwaith ganddo. Synnwyd pawb bod cymaint a 70,000 yn cael eu helpu. Rhagfyr 23 - oedfa arbennig yr Ysgol Sul - a'r pedwerydd gannwyll yn cael ei chynnau i'n cynrychioli ni - Eglwys Crist yn y byd. Do, cafwyd ragor o fins peis! Nos Nadolig bu un o'n bechgyn ifanc - Nils Richards a dau gyfaill yn chwarau carolau yn Tesco Rhydaman, gyda Joseph Rees a'r Gweinidog mewn hetiau Santa yn casglu - eto ar gyfer Shelter Cymru. Cafwyd ymateb da gan y cyhoedd, a diolch i Tesco am ganiatau y fenter. Bore Nadolig, am naw, daeth dros 60 at eu gilydd, a cymunodd 47 ohonynt mewn oedfa emosiynol a theimladwy. Yna am un ar ddeg aeth y Gweiniodg a tua dwsin o aelodau i gynnal oedfa o garolau a Chymundeb yn ysbyty Gymunedol Glanaman. Ie cyfnod hapus iawn lle gwelwyd yr aelodau yn barod, fel arfer, i rannu eu talentau er clod i'r Arglwydd mewn haelioni a chymryd rhan yn y gwasanaethau. Hyderir bod y Nadolig wedi bod yn un bendithiol i bawb o fewn a thu allan i'r Capel. Yn y lluniau isod gwelir rai o'r aelodau yn mwynhau paned a phicen yn y Festri.

12.11.12

Cadoediad Capel Saron

Ar hanner awr wedi deg ar fore braf Sul Tachwedd 11eg gwelwyd tua cant a hanner o bobol wedi dod ir Capel i dalu eu terynged flynyddol i filwyr rhyfeloedd byd a'r rheini sy'n dal i ddioddef o'i herwydd. Arweiniwyd yr oedfa gan y Parchg E.Lyn Rees, a cymrwyd rhan gan Ann Owen y darllen yr ail Salm ar ran Eglwys Dewi Sant Saron; Janet Jones yn darllen Effesiaid 6:10-18, ar ran y Capel. Derbyniwyd y baneri gan y Parchg. a'r brawd D.G.Davies - Eglwys Dewi Sant. Seliodd y Parchg. ei sylwadau ar "Deck of Cards" Wink Martindale, gan lwyddo i hoelio sylw ei holl gynulleidfa. Byrdwn y neges oedd pwysigrwydd ein hatgofio'n barhaol am safonau a gofynion Duw ar ei blant. Wedi'r oedfa casglodd pawb o flaen yr Ardd Goffa, tu cefn y Capel, lle dilynwyd ffurf syml ond effeithiol o nodir Cofio. Darllenwyd enwau colledigion dwy ryfel byd, seiniwyd y "Last Post" a'r "Reveille" gan Huw Thomas, gostyngwyd yna codwyd y baneri, ac adroddwyd y geiriau cyfarwydd "They shall not gow old as we that are left grow old..." gan Ken Burton. Bu dwy
funud o dawelwch hefyd. Roedd cynrychiolwyr deuddeg o fudiadau ardal Saron yn bresenol a gosodwyd rithiau gan - Y British Legion; R.A.F.A.; A.T.C.: Cyngor Cymuned Llandybie; W.I. Saron; Brownies Saron; Clwb Pel Droed Saron; Neuadd Lesiant Saron; Ysgol Gynradd Saron; Eglwys Dewi Sant Saron; Capel Saron.

15.10.12

Diolchgarwch. Hydref 14.'12

Daeth cynulleidfa dda ynghyd ar fore Sul, mewn tywydd ffafriol
, i ddathlu Diolchgarwch y Capel. Roedd y ffenestri oddi mewn wedi eu haddurno'n ddeniadol a phwrpasol, a daeth y plant 'mlaen a llwyth o ffrwythau a llysiau i'w dosbarth ymhlith ein henoed ar y Llun canlynol. Dyna orchwyl bleserus i'r chwaer Rachel Arnold a'r Parchedig. Lluniwyd yr oedfa ar thema diolch am ein synhwyrau - clyw, blasu a.y.y.b. a chymrwyd ran gan tua 17 o'n ieuenctid. Y berson wrth gefn y rhaglen oedd Gaynor Parry, gyda Heulwen Rees yn ei chynorthwyo. Wedi'r oedfa aeth y mwyafrif i'r Festri i fwynhau pryd o fwyd blasus, ac i gymdeithasu. Fe welir boddhad ar yr wynebau yn y lluniau. Megan a Sion mewn sgetsh bwrpasol; Gaynor yn sylwebu; rhai o'r teuloedd ifanc; yr arddegau yn closio at eu gilydd: pobol wrth y byrddau. Do bu'n amser hyfryd a phawb yn mwynhau cwmniaeth o dan fendith a heddwch y Capel.

17.7.12

GWOBRWYO: Bob blwyddyn bydd Capel Saron yn rhoddi gowbr i blentyn yn Ysgol Gynradd Saron. Rhoddi'r hi ar sail ei ddatblygiad yn ystod y flwyddyn flaenorol. Elenni cafodd ei rhannu rhwng Tom Pugh a Kayleigh Northam. Roedd y ddau yn ol barn eu hathrawon,y Brif Athrawes Mrs Gwenda Easton, ac hefyd piniwn y plant, yn llawn haeddu eu cymeradwyo. Yn y llun gwelir Gweinidog Capel Saron, y plant a Mrs Easton. Bydd Mr Rees yn mynychu'r Ysgol yn rheolaidd bob mis i gynnal gwasanaeth,
braint a werthfawrogoa'n fawr.

8.7.12

BARBECIW'R CAPEL

Wedi oedfa effeithiol iawn gan ieuenctid y Capel - hanes Moses yn cael ei achub pan yn faban - aeth pawb ir Festri i fwynhau cinio blasus o sosej, byrgyr, cibab a gwahanol fathau o lysiau, gyda salad ffrwythau ffres yn dilyn. Paratowyd y cyfan gan y chwiorydd er mawr fwynhad y bwytawyr. Y tri cogydd oedd Ian, Robert a Bleddyn- tri llanc os nad yn y ffwrn dan, yn agos iawn ati! Cafodd pawb ei weddill ai wala. Yn y lluniau gwelwch y cogyddion, rhai o'r bwyatwyr yn mwynhau, a Nel yn rhoddi cusan i'w pherthynas Harri. Gwenodd yr Haul tu allan a'r gymdeithas hyfryd oddi-fewn.
http://youtu.be/yHpsUQFWclU

11.6.12

CROESO ADREF Roedd Jayne Picouto ( ar y dde yn y llun) yn falch iawn o groesawu ei chwaer Anne Cunnah adre ar ymweliad o Awstralia. Ymfudodd Anne yno flynddoedd yn ol, a gyda'i gwr John godi teulu -dau o fechgyn gydag enwau Cymraeg - Aled ac Osian. Daeth y teulu estynedig at eu gilydd ar Sadwrn Mehefin 2ial i gartref Jayne yn y Betws, Rhydaman, i ail gydio adnabod a rhannu hen atgofion. Pob dymuniad da i Anne ac i John wrth ddychwelyd i wlad y cangarw! Y mae Jayne yn ddiacones weithgar yng nghapel Saron.

1.6.12

Cymorth Cristnogol: Daeth nifer dda ynghyd Nos Wener Mai 25ain i 'Noson o Pwdin a Paned.' Ymdrech i godi arian ar gyfer Xtian Aid, a lwyddodd i gyrraedd £470. Rhoddwyd heibio mynd o dy i dy ers amser a gwneir mwy o arian mewn ymdrechion fel hyn. Cafodd pawb rhywbeth wrth ei flas o ddwylo dawnus merched y Capel. Gwelir rai oedd yno yn y lluniau yma:
Siec y Gweithgor: Nos Iau Mai 31 daeth tyrfa i'r Capel i gyflwyno Siec o £2,350 i Ambiwlans Awyr Cymru. Roedd Aleodau Gweithgor Bedyddwyr Gogledd Myrddin wedi casglur swm yn ystod y ddwy flynedd flaenorol. Cyn ei roddi gan Mrs Einir Jones i'r Cynghorydd Alun Davies, oedd yn cynrychiolur AAC, cafwyd gyfres o sgetshis difyr iawn ar sgamie ar y We, gan 'Gwmni Drama'r Fedwen.' Cyn ymadael gwelwyd pawb yn mwynhau lluniaeth ysgafn yn y Festri.

20.5.12

Mai 20fed Sul diwethaf bur oedfa tu allan yn yr awyr agored, a chafwyd tywydd ffafriol. Y rheswm oedd ein bod yn cynnal oedfa arbennig i ddiolch am ein hanifeiliad anwes. Rheini sy'n dod a cymaint o gysur a hapusrwyd i ni. Gwelwyd nifer dda o yn bresennol ac yn eu plith Doug a par o ieir Bantam hardd; Sion a cwningen o'r enw winwns; Brychan a Cavashaun or enw Cadi
, Megan a spaniel o'r enw Jack, Griffith a terrapin a Llyr penbyliaid. Yn rhyfedd nid oedd cath ar gyfyl y lle. Doeth efallai. Cymrwyd
rhan yn y gwasanaeth gan Dewi, Jayne, Osian a Rachel. Credir i bawb ymadael gan ddiolch ir Arglwydd am roddi creaduriad mor hyfryd yn ein gofal.

7.5.12

Sul Mai 6ed. Gwelwyd y Parchedig yn derbyn wyth aelod, y rhai a fedyddiwyd y Sul cynt sef Catrin Clarke, Linda Davies, Ifan Rees, Sion Davies a Russell Davies, a tri oeddent yn ail gydio am eu haleodaeth yn Saron sef Maureen a Cliff Davies ag Eirwyn Richards. Rydym wedi elwa o wasanaeth Eirwyn wrth yr organ ers meityn bellach, a braf ei gael yn sefyll gyda ni. Yn yr oedfa Fedydd cymrwyd rhan gan rai o'n haelodau ifanc - Bella, Nia, Sian, Rhodri, Iwan, Gio a Ffion. Fe gymunodd 54 yn y Cymundeb, a gwobrwywyd y rhai fedyddiwyd a chopi dwyieithog o'r Testament Newydd. Roedd yn hyfryd cael cwmni'r Parchedig Lewis Williams yn yr oedfa, ond trist gweld bod afiechyd wedi a gyfyngu i gadair olwyn ar hyn o bryd. Edrychwn mlaen nawr at Sul nesaf - oedfa Bendithio Anifeiliad Anwes - Pet Blessing Service! Yn y lluniau fe welir
Catrin, Ifan, Sion a Linda.

10.4.12

Y Pasg


Sul Ebrill 1taf gwelwyd cynrychiolaeth o 7 capel Bedyddwyr o amgylch Rhydaman wedi casglu yng nghapel Pisgah Penybanc i ganu mawl. Yr arweinydd oedd Mr Jonathan Morgan, a bu'n hwylus a charedig wrth ei waith. Yn cyfeilio roedd hen ffrinidau'r Gymanfa - Band y Diarhebion. Cafwyd un eitem a honno'n unawd hynod effeithiol gan y chwaer Gloria Davies - Ebeneser Rhydaman. Hi hefyd oedd wedi gosod y blodau, ar ffurf croes, wrth y pulpud. Arwydd o'r amserau yw mai ond un oedfa geir bellach.

Bore'r Sul canlynol roeddem eto ym Mhisgah. Y tro hwn i wrando pregeth gan y Parchedig John Talfryn Jones - Ebeneser Rhydaman, ac i rannu'r cymundeb gyda'n gilydd. Gweinydddwyd hwnnw gan y Parchg E Lyn Rees Saron. Neges y Pregethwr oedd ein bod yn cael ein hadnabod gan ein "hacen".

Y Pasg

26.2.12

Dagrau, Llawenydd a Dathlu





Sul Chwefror 26
Collwyd aelod arall sef y chwaer Annie Elisabeth Davies -Nancy, a fu farw yn Ysbyty Glangwili chwefror 19eg yn 88 oed. Gwraig annwyl a charedig.

Bu llawenhau gyda Lawrence Raison gafodd ei enwebu fel "Halen y Ddaear" ar raglen deledu 'Wedi Tri' - S4C. Daeth cyfeillion at eu gilydd ar Chwefror 21ain i'w longyfarch. Roedd pawb yn gytun ei fod yn llawn haeddu'r anrhydedd oherwydd ei wasanaeth didwyll i wahanol fudiadau ym mhentref Saron.

Dathlwyd gwyl ein Nawdd Sant Dewi gyda gwres arbennig ar ol llwyddiant ein tim rygbi cenedlaethol yn erbyn Lloegr yn Twickenham ddoe. Ni flasodd y cawl oedd yn dilyn oedfa hwylus o dan arweiniad ieuenctid y capel yn well erioed.

4.2.12

Dal 'fyny







Cawsom gyfnod Nadolig 2011 prysur a bendithlon. Cynhaliwyd ein hoedfa Drama'r Geni ar Sul Rhagfyr 18fed. Cymerwyd rhan gan y plant a'r ieuenctid, a hynny'n raenus iawn diolc'h ir ddwy athrawes Gaynor a Heulwen.

Yn yr un oedfa cyflwynwyd Nel merch fach John a Natalie McWilliam, a Harrti mab Robert a Rachel Holmes - i ofal Duw a'i Eglwys

Yn yr hwyr cynhaliwyd Cyngerdd Nadolig y Pentref. Darllenwyd yr Yasgrythur gan Nia Salini ar ran y Capel ac Ann Owen ar ran Eglwys Dewi Sant Saron. Un o uchafbwyntiau'r noson oedd cyfraniadau cyfoethog parti o blant yr ysgol gynradd leol. Yna cafwyd cynnau Canhwyllau Cariad, dros gant ohonynt, er cof am annwyliaid gollwyd yn ystod y flwyddyn.

Roedd elw'r noson yn mynd fel arfer i "Shelter Cymru" a braf oedd cael cynrychilwor yn bresennol i esbonio ychydig am waith yr elusen. Agorwyd llygaid llawer o glywed ei eiriau. Aeth oddi yno a tua £650 at y gwaith.

Er bod cymundeb cyntaf y flwyddyn newydd yn syrthio ar Ionawr 1taf, daeth 27 o amgylch y bwrdd. Y Sul canlynol dosbarthwyd gwobrau i blant yr Ysgol Sul am eu ffyddlondeb yn ystod 2010.

Cychwynyd gyflwyno Just10 ar nos Lun Ion 9fed. Cyfres yw o ddarlithoedd hynod afaelgar ar y Deg Gorchymyn gan y Canon J John ar DVD. Byddwn yn gwylio un wythnos ac yn trafod yn nesaf - am y nail. Faint ddaw? 14 fel arfer.

Cafodd y Capel golled pan fu farw'r brawd Brynmor Morris ar Ion 24. Cafodd angladd parchus iawn dydd Iau Chwefror 2ail. Bu Brynmor yn ddiacon ac yn drysorydd ffyddlon Prin medrir fforddio colli ei fath. Rhaid serch hyny wynebu ar y flwyddyn newydd a gwenud y gorau o'n hamser ynddi er llwyddiant yr Efengyl.