Capel Saron Rhydaman
Gweinidog: Y Parchg E. Lyn Rees, B.A., B.D.

Diaconiaid:
Y Chwiorydd: Gaynor Parry; Jane Picouto; Rachel Arnold; Janet Jones; Gwenda Easton; Christine Rees.

Y Brodyr: Dewi Daniel; Osian Rees; Rowland Jones.

Swyddogion:
Ysgrifennydd: Gaynor Parry
Trysorydd: Janet Jones
Ysgrifennydd Ariannol: Margaret Holmes
Ysgrifennydd y Fynwent: Rowland Jones
Cyhoeddwyr: Dewi Daniel a Rachel Arnold
Organyddion: Eirwyn Richards a Rosanne Williams

Swyddogion y Chwiorydd: Gaynor Parry (Ysg) a Heulwen Rees (Trys)

Swyddogion yr Ysgol Sul: Gaynor Parry (Ysg) a Heulwen Rees (Trys)

Swyddog Iechyd a Diogelwch: Brynmor Thomas

Trefnydd Rhestr Flodau: Margaret Holmes

Gofal y Gronfa Gymdeithasol: Rachel Arnold

OEDFAON
Oedfa'r Sul am 10.30 o'r gloch y bore.
Cymundeb ar fore Sul cyntaf bob mis.
Cwrdd Gweddi nos Lun olaf y mis am 7.00



26.12.12

Cyfnod Nadolig 2012

Bu cyfnod y Nadolig yn un prysur iawn yng Nghapel Saron. Cychwynodd pethau gyda Chymundeb Rhagfyr 2ail pan gynnwyd cannwyll gyntaf torch yr Adfent - a'n hatgofio o Broffwydi'r Hen Destament. Sul Rhagfyr 9fed - y brawd Dennis Morgan yn y pulpud gyda neges bwrpasol iawn. Cynnwyd yr ail Gannwyll - cannwyll Ioan Fedyddiwr. Rhagfyr 16eg 'roedd Gaynor Parry wedi llunio rhaglen yn cyflwyno neges y Geni drwy ohebydd yn darlledu adroddiadau ac ymatebion iddo o wahanol rannau o'r byd. Cynnau yr drydedd gannwyll - yn cynrychioli'r Forwyn Fair, cyn i bawb i'r Festri am baned a mins pei cyn troi am adref. Yn yr hwyr cynhaliwyd Cyngerdd Nadolig y Pentref - gyda darlleniadau, carolau a chynnau Canhwyllau Cariad er cof am annwyliaid gollwyd yn ystod y flwyddyn. Roedd y Capel yn llawn, a chodwyd £635 ar gyfer Shelter Cymru. Roedd cynrychiolydd o'r elusen yno - a chafwyd esboniad o'r gwaith ganddo. Synnwyd pawb bod cymaint a 70,000 yn cael eu helpu. Rhagfyr 23 - oedfa arbennig yr Ysgol Sul - a'r pedwerydd gannwyll yn cael ei chynnau i'n cynrychioli ni - Eglwys Crist yn y byd. Do, cafwyd ragor o fins peis! Nos Nadolig bu un o'n bechgyn ifanc - Nils Richards a dau gyfaill yn chwarau carolau yn Tesco Rhydaman, gyda Joseph Rees a'r Gweinidog mewn hetiau Santa yn casglu - eto ar gyfer Shelter Cymru. Cafwyd ymateb da gan y cyhoedd, a diolch i Tesco am ganiatau y fenter. Bore Nadolig, am naw, daeth dros 60 at eu gilydd, a cymunodd 47 ohonynt mewn oedfa emosiynol a theimladwy. Yna am un ar ddeg aeth y Gweiniodg a tua dwsin o aelodau i gynnal oedfa o garolau a Chymundeb yn ysbyty Gymunedol Glanaman. Ie cyfnod hapus iawn lle gwelwyd yr aelodau yn barod, fel arfer, i rannu eu talentau er clod i'r Arglwydd mewn haelioni a chymryd rhan yn y gwasanaethau. Hyderir bod y Nadolig wedi bod yn un bendithiol i bawb o fewn a thu allan i'r Capel. Yn y lluniau isod gwelir rai o'r aelodau yn mwynhau paned a phicen yn y Festri.