Dathlwyd yr wyl elenni ar Chwefror 28 oherwydd bod Mawrth y cyntaf yn syrthio braidd yn lletchwith. Cafwyd cynulliad da iawn a mwynhawyd yr eitemau baratowyd gan ein Hysgol Sul o dan aweiniad y chwaer Gaynor Parry. Wedi'r oedfa aeth y mwyafrif i'r Festri i fwynhau bowlenaid o gawl blasus, Welsh cakes a bara brith. Y cyfan wedi ei gyfrannu gan yr aelodau.
Yn y lluniau isod fel welwch Harri a'i chwaer fach Amelia a Nel, ac yna Harri a Nel - hi yn ei gwisg Gymreig y tro hwn. Yna Mari a'i ffrind Katie Lee, a tri gwr sef y Dr Eiddon Daves ar y chwith, Lawrence Raison yn y canol a Keith Davies - cefnder i Eiddon. Y mae ef newydd ddychwelyd i Gymru ar ol deugain mlynedd yn Toronto. Do, cafwyd bore hapus yn cofio am ein Sant.
29.2.16
27.2.16
Siec i Alzheimers
Yn ystod oedfa Gymundeb ar fore Sul Chwefror y 7fed 2016 cafodd yr aelodau yr hyfrydwch o gyflwyno siec i Gwen James - cynrychiolydd yr Elusen Alzheimers. Codwyd £630 mewn cyngerdd Nadolig a rhoddion unigol ar gyfer yr Elusen. Y mae ganddi ganolfan - "Ty Perthyn"- yn Hall Street Rhydaman lle y mae cyngor a chymorth ar gael i bobl sy'n ymwneud a'r afiechyd hynod gyffredin hwn. Yn y llun gwelwch ein Trysoryddes Janet Jones (ar y chwith) yn estyn ein siec i Gwen James - o'r Elusen.
.
.
Subscribe to:
Posts (Atom)