Capel Saron Rhydaman
Gweinidog: Y Parchg E. Lyn Rees, B.A., B.D.

Diaconiaid:
Y Chwiorydd: Gaynor Parry; Jane Picouto; Rachel Arnold; Janet Jones; Gwenda Easton; Christine Rees.

Y Brodyr: Dewi Daniel; Osian Rees; Rowland Jones.

Swyddogion:
Ysgrifennydd: Gaynor Parry
Trysorydd: Janet Jones
Ysgrifennydd Ariannol: Margaret Holmes
Ysgrifennydd y Fynwent: Rowland Jones
Cyhoeddwyr: Dewi Daniel a Rachel Arnold
Organyddion: Eirwyn Richards a Rosanne Williams

Swyddogion y Chwiorydd: Gaynor Parry (Ysg) a Heulwen Rees (Trys)

Swyddogion yr Ysgol Sul: Gaynor Parry (Ysg) a Heulwen Rees (Trys)

Swyddog Iechyd a Diogelwch: Brynmor Thomas

Trefnydd Rhestr Flodau: Margaret Holmes

Gofal y Gronfa Gymdeithasol: Rachel Arnold

OEDFAON
Oedfa'r Sul am 10.30 o'r gloch y bore.
Cymundeb ar fore Sul cyntaf bob mis.
Cwrdd Gweddi nos Lun olaf y mis am 7.00



19.12.11

Rhodd


Nos Iau Rhagfyr 15.
Noson agored yn ysbyty Gymunedol Glanaman.I helpu'r "League of Friends" i gynnig gwellianau yn yr ysbyty aeth y Gweinidog ai briod yno a siec o £425 oddi wrth Gapel Saron. Cyflwynwyd hi i'r trysorydd - Mr Arwel Davies.

Gwelir lawer o henoed pentref a chapel Saron yn diolch amdani pan fydd angen. Byddai'r holl ardal yn dlotach pe baech hi'n cael ei chau.

14.11.11

Sul y Cadoediad Tachwedd 13eg

Daeth tua 200 i oedfa'r Cadoediad yn y capel. Fel arfer ymunodd aelodau Eglwys Dewi Sant Saron gyda ni. Darllenwyd o'r Hen Destament yn Saesneg gan Anne Owen (Eglwys), ac o'r Testament Newydd yn Gymraeg gan Mia Jones (Capel). Neils Richards oedd wrth yr organ. Traddodwyd neges bwrpasol ac amserol gan ein Gweinidog - Parchg E Lyn Rees. Cawsom ein hatgofio am y rhyfela presennol yn erbyn y ffydd Gristnogol ar draws y byd.

Cynorthwywyd yn y Capel drwy dderbyn y baneri, ac yn yr Ardd Goffa drwy ddarllen enwau'r rhai gollwyd yn rhyfeloedd 1914-1918, a 1939-1945, gan D Gwyn Davies (Eglwys). Y trwmpedwr oedd Huw Thomas, a Major Ken Burton adroddodd y geiriau cyfarwydd "They shall not grow old..."

Gosodwyd rithiau gan - Y British Legion, RAFA, ATC, Cyngor Cymuned Llandybie, Pwyllgor Neuadd Saron, Brownies Saron, Ysgol Gynradd Saron, y WI, Clwb pel Droed Saron, Eglwys Dewi Sant, a Chapel Saron.

Annisgwyl

Gwener Tachwedd 11eg
Pwy fyddai wedi mentro darogan y byddwn yn cynnal angladd y brawd Malcom Stuart Parry heddiw? Gwr cadarn ym mhob ystyr - o ran corff a chymeriad. Un uchel ei barch mewn ardal lydan - fel cyn ddirprwy brifathro Ysgol Tregib Llandeilo, a chymnwynaswr parod i bentref Saron a'r Capel. Ond yn 60 oed galwyd ef adref union wythnos yn ol, gan adael Gaynor ei annwyl wraig, a Sara ei unig ferch, mewn penbleth a dagrau. Roedd yn galed hefyd ar ei fam Mrs Olwen Parry, ai chwaer Shirley, i ymdopi a'r sefyllfa.
Daeth dros 400 i'w angladd yng Nghapel Saron, lle talwyd terynged ddwys iddo gan ei weinidog y Parchg E Lyn Rees. Cynorthwywyd ef gan y Parchedigion Vivian Rees, Albert Williams, Carl Williams a John Talfryn Jones. Claddwyd corff Stuart ym mynwent y Capel.

9.10.11

Diolchgarwch





Hydref 9fed, bore Sul llaith pan gynhaliwyd ein cyfarfod Diolchgarwch blynyddol. Roedd y chwiorydd wedi addurno'r Capel yn hyfryd gan roddi awyrgylch Hydrefaidd iddo, a'r gwres canolog yn erlid y naws oeraidd tu allan.

Gwelwyd aelodau'r Ysgol Sul yn cymryd y rhannau blaenllaw o dan gyfarwyddyd yr athrawesau Gaynor Parry a Heulwen Rees. Daethant hefyd a rhoddion o ffrwythau a llysiau fydd yn cael eu rhannu ymhlith ein henoed (dros 80 oed), aelodau sal neu mewn cartref, gan y chwaer Rachel Arnold a'r Gweinidog.

Y thema elenni oedd diogelu'r hinsawdd a brwydro yn erbyn gwastraff. Roedd y neges yn amserol ac wedi ei osod mewn ffurf ddiddorol ddaliodd sylw'r gynulleidfa. Mewn sylwadau byr pwysleisiodd y Parchedig bwysigrwydd blaenllaw y ffermwr- heb fwyd, heb ddim!

Wedi'r oedfa cafwyd cinio blasus yn y Festri cyn ymadael am adref.

12.8.11

Hysbysebu



Slawer dydd 'roedd pawb bron yn gwybod beth oedd yn digwydd yn y Capel, a phryd. Heddiw ni ellir cymryd hynny'n ganiataol. Felly penderfynnodd y swyddogion osod baner ar y lawnt flaen yn cyhoeddi amser ein cyfarfod wythnosol. Os fydd hwn yn llwyddiant yna fe welir rhagor yn son am ein Cymundeb misol ac unrhyw weithgaredd neu ddigwyddiad arall a gynhelir. Mae'n amlwg bod hysbysebu'n gweithio i fusnesau'r byd a gweddiwn ar iddo weithio hefyd i ni ac y gwelwn ragor yn troi i mewn i addoli Duw gyda ni.

31.7.11

Gorff 31. '11


Gydag ymddiheuriad, am fod mor fler, heddiw rhoddwyd llongyfarchiadau i'n chwaer Liz Cudworth ar gyrraedd yr oedran o 96, y Sul diwethaf! Liz yw ein aelod hynaf o ran oedran. Y maen brawd sef Douglas Williams yn ei chanlyn yn agos yn 95 oed. Ef yw ein aelod hynaf o ran aelodaeth a bu'n Ddiacon defnyddiol am flynyddoedd nes ymddeol a gorfod derbyn gofal Cartref Henoed. Hyderwn y cawn gadw'r ddau am flynyddoedd eto.

16.7.11

Barbeciw'r Capel 10.7.'11

Ar fore Sul, wedi oedfa ddiddorol ar y thema y Samariad Trugarog o dan arweinyddiaeth ieuenctid y Capel, cafwyd barbeciw blasus. Pawb wedi mwynhau. Dyma rai lluniau o'r digwyddiad. Fel y gwelwch buom yn ffodus yn ein tywydd!





31.5.11

Ionawr i Mai 2011

Llynedd ymfalchiwyd nad oeddem wedi colli un aelod, ond yn y ddau fis cyntaf elenni collwyd tri - y Chwiorydd Agnes Davies (The Green Baize Granny!) pencampwraig snwcer Cymru yn ei dydd, a Maggie Morgan - Cilrhedyn gynt, a'r brawd Edgar Dent. Na themtied ffawd!

Bu trwsio eto ar yr adeilad, gan roddi goleuadau newydd yn y cefn, ynghyd a chafnau newydd i'r to. Hefyd aethpwyd ati i bwyntio'r wal gerrig - gwaith nad yw wedi dod i ben eto ond sy'n addo edrych yn hardd iawn wedi ei orffen.

Daliodd yr oedfaon yn eu hanterth ar waethaf y tywydd oer, er raid cyfaddef mai caled y frwydr rhyngom a diddordebau eraill y plant ar fore Sul. Ambell waith byddwn yn ennill ond colli fyddwn ran amlaf.

Bu'r Capel ar gau ddau Sul yn olynol adeg y Pasg. Y cyntaf ar Sul y Blodau pan ymunwyd gyda chapeli cylch Cymanfa Ganu Saron i ganu Mawl yn Ebeneser Rhydaman. Yr ail ar Sul y Pasg pan unwyd eto yn yr un lle i ddathlu Cymundeb. Pregethwyd gan ein Gweinidog y Parchedig E Lyn Rees a gweinyddwyd y "swper" gan Weinidog Ebeneser y Parchg John Talfryn Jones. O ystyried bod yna saith o gapeli gydag aelodaeth o 502 rhyngddynt yn y cylch siomedig oedd y cynulliadau yn y cyfarfodydd.

Gyda'r Gwanwyn o'n blaenau edrychwn ymlaen at gyfnod arall o gymdeithasu fel aelodau Eglwys Duw yn Saron a'r ardal. Ceisiwn hefyd, bawb yn ei ffordd ei hun, i ennill eraill i adnabod ein Gwaredwr Iesu Grist.