Capel Saron Rhydaman
Gweinidog: Y Parchg E. Lyn Rees, B.A., B.D.

Diaconiaid:
Y Chwiorydd: Gaynor Parry; Jane Picouto; Rachel Arnold; Janet Jones; Gwenda Easton; Christine Rees.

Y Brodyr: Dewi Daniel; Osian Rees; Rowland Jones.

Swyddogion:
Ysgrifennydd: Gaynor Parry
Trysorydd: Janet Jones
Ysgrifennydd Ariannol: Margaret Holmes
Ysgrifennydd y Fynwent: Rowland Jones
Cyhoeddwyr: Dewi Daniel a Rachel Arnold
Organyddion: Eirwyn Richards a Rosanne Williams

Swyddogion y Chwiorydd: Gaynor Parry (Ysg) a Heulwen Rees (Trys)

Swyddogion yr Ysgol Sul: Gaynor Parry (Ysg) a Heulwen Rees (Trys)

Swyddog Iechyd a Diogelwch: Brynmor Thomas

Trefnydd Rhestr Flodau: Margaret Holmes

Gofal y Gronfa Gymdeithasol: Rachel Arnold

OEDFAON
Oedfa'r Sul am 10.30 o'r gloch y bore.
Cymundeb ar fore Sul cyntaf bob mis.
Cwrdd Gweddi nos Lun olaf y mis am 7.00



15.11.16

LLUNIAU O'R CADOEDIAD

Dyma rai lluniau o'r Cadoediad yn y Capel ar Sul Tachwedd 13.  Gwelir y Gweinidog a'r brawd Mr D. Gwyn Davies yn derbyn baneri - British Legion a'r A.T.C, Cor Persain, yna y biwgler Huw Davies a Major Ken Burton adroddodd y geiriau "They shall not grow old..." a'r Gweinidog a Mr Davies yn darllen rhestr y rhai a gollwyd.


13.11.16

Cadoediad

Ar fore braf o Hydref daeth cynulleidfa o dros gant i'r Capel ar gyfer ein Cadoediad blynyddol.  Yn bresennol oedd ein gwleidyddion lleol - Alun Davies a Peter Cooper, y British Legion a'r A.T.C.  Yn newydd  oedd presennoldeb cor merched - "Persian" o dan ei harweinydd medrus Anne Wheldon ar cyfeilydd Catherine Morgan.  Cawsom ddau ddarn addas iawn i'r achlysur greodd awyrgyll ddwys a myfyrgar.  Darllenwyd ar ran Eglwys Dewis Sant, Saron, gan Anne Owen ac ar ran y Capel gan Fion Clarke.  Y cyntaf yn Saesneg ar ail yng Nghymraeg.  Cafodd y Gweinidog help i dderbyn baneri  a darllen y rhestr enwau wrth yr Ardd Goffa gan  y brawd D Gwyn Davies. Y trympedwr oedd Huw Thomas a'r brawd Ken Burton adroddodd y geiriau - "They shall not grow old..." Gosodwyd 11 o rithau gan gynrhychiolwyr   mudiadau'r ardal.  Daliodd y Gweinidog sylw'r gynulleidfa drwy dynnu sylw at Faniffesto Crist fel  Cadfridog  - Luc 4: 18-19. Cadfridog oedd yn barod i farw dros ei ganlynwyr.  Nododd hefyd eiriau Paul yn Ephesiaid 6:16-18 a'r angen dwys ar i'r credadyn wisgo'r holl arfogaeth ddwyfol yn y  frwydr yn erbyn pwerau'r tywyllwch.
Nos Fercher nesaf, rhwng hanner awr wedi chwech ag wyth bydd gan y Capel noson 'Paned a Chacen' i godi arian ar gyfer apel Cymorth Cristnogol -"Cofiwch y Fam"  Gobeithiwn y medrwn lawr lwytho lluniau o'r ddau achlysur yn ein Blog nesaf.

7.11.16

Cais am Weddi

Ddoe yn ein hoedfa Gymundeb mentrwyd ar arbrawf syml. Rhoddwyd blwch copr bach ar hambwrdd yn y lobi, ac wrtho gardie a biro.  Gwahoddwyd yr aelodau ysgrifennu enw unrhyw un yr hoffent fod yn wrthych gweddi yn ystod yr oedfa.  Ni fyddai neb ond hwy yn gwybod pwy oherwydd myfyrdod tawel fyddai'r gweddio gyda'r organ yn chware darn pwrpasol fel cefndir.  Cymrodd rhai y cyfle. Teimlwn y bydd yr arfer hwn yn raddol ennill ei le ac yn dod yn rhan o batrwm ein haddoliad.  Yn y llun fel welwch y blwch a'r hambwrdd etc.


 Mae pawb yn edrych ymlaen at y Sul nesaf pan gynhaliwn ein hoedfa Gadoediad flynyddol.  Y tro hwn bydd gennym gor Persain yn canu.  Mae'n siwr y byddont yn ychwangeu at y awyrgylch dwys y gwasanaeth.

25.10.16

Penwythnos Aberfan

Bu penwythnos Hydref 21 yn un dirdynnol i deuluoedd Aberfan.  Ail fyw, wedi hanner canrif, chwerwder y golled fawr ddaeth yn sgil esgeulusod amryw ynglyn a tip rhif 7  uwchben ysgol Pantglas.  Maes o  law nodwyd y Bwrdd Glo yn gyfrifol am y gyflafan, er na chafodd neb ei erlyn na cholli swydd. Tynnodd un aelod o'r Capel ein sylw at arwyddocad y dyddiad sef 21:10:1966.  O'i adio 21+10+19+66 ceir y rhif  116!  Union nifer y plant a laddwyd gan y slyri didrugaredd.  Hynod ynte.  Yn ein hoedfa'a'r y Sul nodwyd y golled drwy pawb yn sefyll am funud o dawelwch.  Rhyfedd pa mor hir gall munud felly fod.  Gobeithio fod gwersi wedi cael eu dysgu o'r hyn a ddigwyddodd ac a dynnodd ddagrau byd a betws.

10.10.16

Diolchgarwch Hydref 9fed 2016

Ar fore Sul  oerllyd ond heulog gwelwyd cynulleidfa raenus  yn y Capel yn dathlu ein Diolchgarwch.  Trefnwyd   yr oedfa gan Gaynor a Heulwen ar y thema o Yd a Bara yn y Beibl,  a chymrwyd y darllen gan Christine a'r weddi gan Gwenda. Mwynhawyd adroddiad Harri  bach o "Tu nol i'r dorth mae'r blawd..., " yna Mari yn canu "Dod ar fy mhen dy sanctaidd law..."  a hynny'n ddigyfeiliant am i'r peiriant miwsig fethu!
Roedd gwynt paent yn gryf yn y Capel oherwydd bod gwaith adnewyddu'n dal i fynd -  gwerth ei ddioddef. Soniodd y Gweinidog am daten - bod  rhaid ei rhoddi yn y pridd er mwyn iddi esgor ar ragor.  Felly aelodau - rhaid mynychu achles oedfa os am ddenu aelodau newydd.
Os oedd braidd yn sythlyd yn y Capel - yr hen foiler druan yn disgwyl triniaeth - roedd digon o wres  yn y Festri.  Cafodd pawb yno ei gwala o fwyd a mwynhau cymdeithas hwylus a gwresog.  Mae'r lluniau yn rhoi blas i chi o'r achlysur.   Bore dydd Marth nesaf bydd y Gweinidog a Rachel Arnold yn dosbarthu ffrwythau a blodau o'r oedfa i'n henoed  (80 a throsodd) a'r rheini sy'n sal neu mewn cartrefi gofal.


Bydd unrhyw elw a wnawn yn ein gweithgareddau o hyn ymlaen yn mynd i Elusen "Cofia dy Fam" sy'n cael ei gefnogi gan ein Cymanfa.

13.9.16

Gwobr a gwaith



Rhaid i chi faddau imi fethu cael llun o'r ddwy ferch gafodd Wobr Flynyddol Capel Saron yn ysgol Gynradd Saron.   Eu henwau yw Bethan Davies a Chloe Webb.  Dyfarnwyd, gan y brifathrwes - Mrs Gwenda Easton, eu bod wedi cyfrannu'n sylweddol at ethos yr ysgol yn ystod y flwyddyn.  Cawsant eu gwobrwyo yn nghyngerdd yr Ysgol nos Fercher 13 y Gorffennaf. Maent bellach wedi cyhwyn yn yr Ysgol Gyfun.  Bendith arnynt

.
Mae'r gwaith ar y Capel yn mynd yn ei flaen - yn araf!  Gwelwch yn y lluniau un o'r peintwyr wrthi ar dalcen mewnol yr adeilad.


Edrychir ymlaen at raglen y Gaeaf - gyda nifer o bethau ar y gweill - y Cwrdd Diolchgrwch a'r ginio - 9fed o Hydref.; y Cadoediad ar Dachwedd 13, Cyngerdd  Nadolig ar Ragfyr 11eg.
Byddwn hefyd yn codi arian, ar gais y Gymanfa, ar gyfer Apel Feddygol Ghana.  Daw mwy o fanylion ynglyn a hynny maes o law.

5.8.16

Cynnal a Chadw

OFNADWY oedd darllen am ladd yr offeiriad, Jacques Hamel, yn Ffrainc (26.7.'16) gan derfysgwr Mwslimaidd.  Oherwydd hynny daeth llythyr atom  oddi wrth y Llywodraeth ar i ni fod yn wyliadwrus.  Gobeithio na ddaw'r fath brofiad i unrhyw le o addoliad arall..  Beth bynnag y mae gwaith y Capel yn mynd yn ei flaen - cadw'r fynwent a'r lawntydd yn daclus - fel y gwelch Dewi I.Q.P yn ei wneud yn y llun.
Yna paratoi i ail blastro talcen cefn y Capel i gadw'r glaw ar lleithder allan - am flynyddoedd i ddod - ni obeithiwn.  Ie, cynnal a chadw yw'r drefn, a gwnawn hynny tra medrwn


...