Capel Saron Rhydaman
Gweinidog: Y Parchg E. Lyn Rees, B.A., B.D.

Diaconiaid:
Y Chwiorydd: Gaynor Parry; Jane Picouto; Rachel Arnold; Janet Jones; Gwenda Easton; Christine Rees.

Y Brodyr: Dewi Daniel; Osian Rees; Rowland Jones.

Swyddogion:
Ysgrifennydd: Gaynor Parry
Trysorydd: Janet Jones
Ysgrifennydd Ariannol: Margaret Holmes
Ysgrifennydd y Fynwent: Rowland Jones
Cyhoeddwyr: Dewi Daniel a Rachel Arnold
Organyddion: Eirwyn Richards a Rosanne Williams

Swyddogion y Chwiorydd: Gaynor Parry (Ysg) a Heulwen Rees (Trys)

Swyddogion yr Ysgol Sul: Gaynor Parry (Ysg) a Heulwen Rees (Trys)

Swyddog Iechyd a Diogelwch: Brynmor Thomas

Trefnydd Rhestr Flodau: Margaret Holmes

Gofal y Gronfa Gymdeithasol: Rachel Arnold

OEDFAON
Oedfa'r Sul am 10.30 o'r gloch y bore.
Cymundeb ar fore Sul cyntaf bob mis.
Cwrdd Gweddi nos Lun olaf y mis am 7.00



19.7.14

BARBECIW A GWOBR

Dydd Sul Gorffennaf 13 - bore Barbeciw yr Ysgol Sul. Daeth nifer dda i'r oedfa a drenfwyd gan Gaynor Parry. Cafwyd hanes Joseff wedi ei ddarllen yn ddramatig gan Rachel Arnold, Heulwen Rees, Gwenda Easton a Gaynor. Arweiniwyd ni mewn gweddi gan Ifan Rees. Cyhoeddywd yr emynau gan Megan a Sion. Wrth yr organ oedd Nils Richards. Yna i'r festri, gyda gwynt y coginio'n tynnu dwr i ddannedd pawb. Chware teg i Andy Easton, Joseph Rees a Bleddyn Jones bu'n chwysu uwch y tan, daeth y cig- byrger, cyw iar a sosej i'r bwrdd mewn byr amser a phlesio pawb. Nid hynny'n unig chwaith. Roedd ein chwiorydd hael wedi dod a bowleni o salad ffrwythau ar ein cyfer - iachus ynte! Nos Iau 17 mewn seremoni i ddosbarth uchaf ein Hysgol Gynradd, cafodd un o ferched yr Ysgol Sul ei anrhydeddi. Dewiswyd hi gan y Brif Athrawes - Gwenda Easton i dderbyn gwobr flynyddol y Capel. Caiff ei rhoi i ddisgybl sy' wedi dangos y datblygiad a'r addewid mwyaf yn ystod y flwyddyn. Elenni Hannah Davies oedd honno. Da iawn Hannah.
Yn y lluniau fe welwch brysurdeb ariannol y gwledda - gyda Gaynor a Karen yn gofalu fod modd ar gael i dalu am ein pleser. Bleddyn yn barod i ymosod ar sosej, a Margaret yn pwyllo cyn mentro ar goes cyw iar. Yna - does mam a'i mab yn mwynhau - Christine a Joseff - yntau newydd ennill gradd Dau Un ym mrhifysgol Reading. Hawdd adnabod Hannah,a'i hwyneb siriol yn dangos ei mwynhad o gael ei anrhydeddi. Gyda hi y mae'n Gweinidog a Phrif Athrawes yr Ysgol.

14.6.14

ANIFEILIAID ANWES

Bore Sul Mehefin 8fed, daeth nifer at ei gilydd i oedfa gynhaliwyd ar y maes parcio. Pam hynny? Wel oedfa oedd hi i ddiolch i Dduw am ein hanifeiliaid anwes - ein Pets! Bydd rhain yn gwmni ac yn ddiddanwch i lawer, a iawn yw cydnabod ei cyfraniad i'n hapusrwydd. Cafwyd darlleniadau pwrpasol yn cyfeirio at wahanol greaduriaid. Ni anghofiwyd 'Swansea Jack' achubodd 27 o bobol rhag boddi yn nociau Abertawe. Clywyd am y Gwcw. Aderyn ffals yn ol y bardd y Parch W.D.Roberts -"Mi glywais am ei chastiau, os yw ei chan yn iach, yn gadael ei holl wyau yn nythod adar bach." Moeswers amlwg yn y fan hon! Darllenwyd "Yr Anifeiliaid Caredig" stori o lyfr "Am Fyd" Huw John Huws gan Bella Salini. Ni ellid peidio a chyfeirio at stori drist ond addysgol Gelert a laddwyd oherwydd amryfusedd y tywysog. Eraill yn cymryd rhan oedd Gaynor, Christine, Gill a Heulwen; a darllenodd Dewi Salm 8 lle cawn ein atgofio am ein safle yn y cread, a'n cyfrifoldeb iddo. Roedd Megan a'i thad wedi dod a'r sbaniel. Lydia a thri pysgodyn aur, Eoin ag Orla a'r ci, Sion a Winwns y gwningen a nifer arall a chreaduriad. Do, bu'n oedfa fendithiol dan awyr oedd las ac yn glir. Ni fu canu emynau. Ni thynnodd hynny unrhyw sylw. Tybed os ydym yn canu gormod yn ein hoedfaon a'r sylwedd y diflannu yn y swn?

7.6.14

DAL I FYNY

Raid cychwyn gyda ymddiheuriad am y gwacter diweddar yn yr hanes am ddigwyddiadaur Capel. Felly ati heb golli rhagor o amser. Fel y gwyr rhai y mae Capel Saron yn dathlu 200 mlynedd elenni. I dynnu sylw at hynny rhoddwyd baner sylweddol ar y lawnt o flaen y Capel Newydd adeiladwyd yn 1912, yn cyhoeddi - "YMA O HYD" "STILL HERE" 1814-2014 yn fras ac amlwg arno. Hefyd atgofiwyd pobol yn mynd heibio am y Pasg drwy osod Croes sylweddol ar ochor arall y lawnt. Cafwyd dathliadau hapus, hwylus a llwyddiannus. Ar nos Fercher Ebrill 2ail cynhaliwyd cyngerdd. Roedd y Capel yn gyfforddus lawn i fwynhaur gwahanol eitemau. Hyfryd oedd cael presennoldeb y Parch Eirian Wyn - Llywydd yr Undeb - a'i gyfarchion yn ddiffuant a chalonogol. Gwnaed casgliad o £239.50 ar gyfer Banc Bwyd Rhydaman. Bore Sul canlynol cafwyd Gymundeb Undebol gyda aelodau o eglwys Bedyddiedig yr ardal yn dod at eu gilydd ynghyd a Methodistiaid o Gapel Hendre, ag Eglwyswir o Eglwys Dewi Sant - Saron. Rhanwyd yr oedfa rhwng ein Gweinidog a'r Parch John Talfryn Jones Ebeneser Rhydaman. Gwelwyd dros 150 yn cymryd Cymundeb mewn awyrgylch frawdol a chynnes. Mai 9fed: Cynhaliwyd noson o "Bwdin a Paned." Y diben oedd codi arian ar gyfer Cymorth Cristnogol. Profwyd bod hon yn llwyddo'n well na chrwydro o ddrws i ddrws, dull allai fod yn draferthus a gorfod dioddef ambell gyfarchiad tra sarhaus! Erbyn i bob ceiniog ddod i fewn roedd y swm yn £276. Sul Mehefin 1af: Wedi mis o rybudd pleidleisiodd yr aelodau mewn balot gudd yn erbyn cynnal priodasau "un rhyw" yn y Capel.
Deallwyd na fyddai'n Gweinidog yn barod i weinyddu yn y math yna o "briodas." Gresyn bod hyn yn cael ei orfodi ar Eglwysi Iesu Grist.

4.2.14

Darts ag Elusen

Darts. Nid yw'n arferol i Gapel son am chware darts yn y Festri. Ond dyna beth wnaed nos Iau Ionawr 23. Daeth criw at ei gilydd am noson o gymdeithasu, hwyl a sbri. Y bwriad oedd cael tim i gystadlu yn yr ornest drefnwyd gan bwyllgor Codi Arian y Pentref ar gyfer Steddfod Genedlaethol Llanelli elenni. Eisoes codwyd dros £3,500 at y cyfanswm o £5,000 nodwyd ar gyfer cylch Penybanc, Capel Hendre a Saron. Trodd nifer allan, a rhai yn amlwg yn hen law wrth y grefft. Bu'r cystadlu'n frwd ac ar ddiwedd y noson cafwyd fod y merched yn well wrth y gwaith na'r dynion. Tipyn o sioc! Wrth gwrs cafwyd deisenau a phice bach, a te a choffi i gadw pawb i fynd- a gwnaeth y chwareuwyr y mwyaf o'r danteithion hynny. Penderfynwyd ar ddiwedd noson hapus y byddai'n raid cael noson debyg arall cyn gwneud y dewis trefynnol ynglyn a Thim Darts i gynrychiolu'r Capel yn y rownd derfynnol ym mis Mawrth. Yn y llun fe welir y chwaer Margaret Holmes yn anelu am y bwrdd - ni wyddai neb ei bod wedi chwarae unwaith yn y "Ball Room" yn Blackpool! Chwefror 2ail. Bob blwyddyn bydd y Capel yn dewis un Elusen i'w chefnogi - hynny gyda'r casgliadau arferol ar gyfer y B.M.S. Llynedd dewiswyd Hafan i Ferched, Rhydaman. Cynniga hon nodded i wragedd a phlant yn ffoi oherwydd trais a chamdrin adref. Yn 2013 gwelwyd 350 o deuloedd yn ardal Rhydaman yn cymryd mantais ohoni. Trosglwyddwyd siec o £1,000 i ddwy gynrychiolwraig o'r Elusen ar y Sul gan Ysgrifenyddes y Capel sef Mrs Gaynor Parry. Ni enwir y cynrychiolwyr na dangos llun ohonynt - am resymau amlwg.

12.12.13

Cyngerdd Nadolig yr Ysgol Feithrin

Nos Fawrth y ddegfed o Ragfyr tyrrodd tyrfa i Gapel Saron i fwynhau cyngerdd flynyddol plant yr Ysgol Feithrin. Bydd hon yn cyfarfod yn gyson yn Festri yr Hen Gapel a saif o fewn ychydig lathenni o'r prif adeilad. Cafwyd hanner awr hudol gan y bychain. Rheini wedi eu gwisgo yn Nadoligaidd ac yn canu ac yn adrodd, rhwng gweld mam a dad, dadcu a mamgu - a chwifio a gwenu arnynt! Wedi'r adloniant a foddhaodd bawb, roedd croeso i'r Festri am baned, "hot dog" a chyfle hefyd i brynu ambell anrheg. Tu cefn i'r llwyddiant 'roedd Annette - Arweinyddes yr Ysgol a'i Thim brwdfrydig a gweithgar. Yn y llun gwelir hwy yn y drefn yma. Yn y cefn or chwith i'r dde - Meinir Jones, Sharon Page, Susan Betton,Amanda Griffiths. Ac yn y rhes flaen, eto or chwith i'r dde - Sharon Walters, Annette Price, Teresa Ellsomore. Bydd llun y plant yn rhoi blas bach ar y noson i chi.

10.11.13

CADOEDIAD CAPEL SARON

Bore Sul Tachwedd 10fed, a'r haul yn gwenu daeth cynulliad o tua 150 i Gapel Saron i gadw'r ddefod o gofio aberthau rhyfeloedd byd a gweddio am ddyfodol di-ryfel. Arweiniwyd y cyfarfod gan ein Gweinidog a chafwyd anerchiad rhagorol gan Lt. Emilly Jordan, Byddin yr Iachawdwriaeth Rhydaman. Wrth yr organ oedd y chwaer Roseanne Williams; chwareuwyd y trwmped ar gyfer y "Last Post" a'r "Reveille" gan Huw Thomas, a chyhoeddwyd y geiriau cyfarwydd "They shall not grow old..." gan Major Ken Burton. Darllenwyd o'r Hen Destament gan Anne Owen - Eglwys Dewi Sant Saron, ac o'r Testament Newydd gan Catrin Clarke ar ran y Capel. Cynorthwywyd y Gweinidog i dderbyn y baneri yn y Capel gan D.Gwyn Davies -Eglwys Dewi Sant. Gwnaed casgliad ar gyfer y "British Legion" a chroesawyd nifer dda o fudiadau lleol. Gosodwyd 13 o rithiau wrth y gofeb. Yn y lluniau gwelwch y Gweinidog a D.G.Davies yn derbyn y baneri yn y Capel. Yna Catrin yn darllen. Lt Jordan yn cyflwyno ei hanerchiad. Y baneri'n cael ei gostwng i swn y "Last Post." Y "Brownies" ar eu ffordd i osod eu rith, a'r brawd Dewi Daniel yn gosod rith y Capel, a'r gofeb a'r rithiau arni.

8.11.13

Shwl-di-Mwl

Daeth y cwmni "Shwl-di-Mwl" ag amrywiaeth o ddillad plant i sioe ffasiynau gynhaliwyd yn Ysgol Gynradd Saron Rhydaman nos Iau Tachwedd 8fed. Pwyllgor lleol, o dan arweiniad Shirley Taylor oedd wedi trefnu hyn, ymhlith nifer o ddigwyddiadau diddorol eraill i godi arian ar gyfer 'Steddfod Genedlaethol Sir Gar i'w chynnal yn Llanelli yn 2014. Plant yn perthyn i Gapel Saron ac i'r ysgol oedd y modelau. Ar ddiwedd noson hynod lwyddiannus roedd cyfle i bobl brynu neu archebu dillad, a mwynhawyd
gwin a "cup cake" gan bawb cyn troi am adref. Diolch i'r brawd Owen Young am ddod a'i gynnyrch i'w arddangos er budd achos teilwng. Yn y lluniau gwelwch rai o'r ifanc fuont yn cerdded "Rhodfa'r-Gath"(Cat Walk) i ddangos y dillad.