4.2.14
Darts ag Elusen
Darts.
Nid yw'n arferol i Gapel son am chware darts yn y Festri. Ond dyna beth wnaed nos Iau Ionawr 23. Daeth criw at ei gilydd am noson o gymdeithasu, hwyl a sbri. Y bwriad oedd cael tim i gystadlu yn yr ornest drefnwyd gan bwyllgor Codi Arian y Pentref ar gyfer Steddfod Genedlaethol Llanelli elenni. Eisoes codwyd dros £3,500 at y cyfanswm o £5,000 nodwyd ar gyfer cylch Penybanc, Capel Hendre a Saron.
Trodd nifer allan, a rhai yn amlwg yn hen law wrth y grefft. Bu'r cystadlu'n frwd ac ar ddiwedd y noson cafwyd fod y merched yn well wrth y gwaith na'r dynion. Tipyn o sioc!
Wrth gwrs cafwyd deisenau a phice bach, a te a choffi i gadw pawb i fynd- a gwnaeth y chwareuwyr y mwyaf o'r danteithion hynny.
Penderfynwyd ar ddiwedd noson hapus y byddai'n raid cael noson debyg arall cyn gwneud y dewis trefynnol ynglyn a Thim Darts i gynrychiolu'r Capel yn y rownd derfynnol ym mis Mawrth.
Yn y llun fe welir y chwaer Margaret Holmes yn anelu am y bwrdd - ni wyddai neb ei bod wedi chwarae unwaith yn y "Ball Room" yn Blackpool!
Chwefror 2ail.
Bob blwyddyn bydd y Capel yn dewis un Elusen i'w chefnogi - hynny gyda'r casgliadau arferol ar gyfer y B.M.S. Llynedd dewiswyd Hafan i Ferched, Rhydaman. Cynniga hon nodded i wragedd a phlant yn ffoi oherwydd trais a chamdrin adref. Yn 2013 gwelwyd 350 o deuloedd yn ardal Rhydaman yn cymryd mantais ohoni. Trosglwyddwyd siec o £1,000 i ddwy gynrychiolwraig o'r Elusen ar y Sul gan Ysgrifenyddes y Capel sef Mrs Gaynor Parry. Ni enwir y cynrychiolwyr na dangos llun ohonynt - am resymau amlwg.
12.12.13
Cyngerdd Nadolig yr Ysgol Feithrin
Nos Fawrth y ddegfed o Ragfyr tyrrodd tyrfa i Gapel Saron i fwynhau cyngerdd flynyddol plant yr Ysgol Feithrin. Bydd hon yn cyfarfod yn gyson yn Festri yr Hen Gapel a saif o fewn ychydig lathenni o'r prif adeilad. Cafwyd hanner awr hudol gan y bychain. Rheini wedi eu gwisgo yn Nadoligaidd ac yn canu ac yn adrodd, rhwng gweld mam a dad, dadcu a mamgu - a chwifio a gwenu arnynt!
Wedi'r adloniant a foddhaodd bawb, roedd croeso i'r Festri am baned, "hot dog" a chyfle hefyd i brynu ambell anrheg.
Tu cefn i'r llwyddiant 'roedd Annette - Arweinyddes yr Ysgol a'i Thim brwdfrydig a gweithgar. Yn y llun gwelir hwy yn y drefn yma. Yn y cefn or chwith i'r dde - Meinir Jones, Sharon Page, Susan Betton,Amanda Griffiths. Ac yn y rhes flaen, eto or chwith i'r dde - Sharon Walters, Annette Price, Teresa Ellsomore.
Bydd llun y plant yn rhoi blas bach ar y noson i chi.
10.11.13
CADOEDIAD CAPEL SARON
Bore Sul Tachwedd 10fed, a'r haul yn gwenu daeth cynulliad o tua 150 i Gapel Saron i gadw'r ddefod o gofio aberthau rhyfeloedd byd a gweddio am ddyfodol di-ryfel. Arweiniwyd y cyfarfod gan ein Gweinidog a chafwyd anerchiad rhagorol gan Lt. Emilly Jordan, Byddin yr Iachawdwriaeth Rhydaman. Wrth yr organ oedd y chwaer Roseanne Williams; chwareuwyd y trwmped ar gyfer y "Last Post" a'r "Reveille" gan Huw Thomas, a chyhoeddwyd y geiriau cyfarwydd "They shall not grow old..." gan Major Ken Burton. Darllenwyd o'r Hen Destament gan Anne Owen - Eglwys Dewi Sant Saron, ac o'r Testament Newydd gan Catrin Clarke ar ran y Capel. Cynorthwywyd y Gweinidog i dderbyn y baneri yn y Capel gan D.Gwyn Davies -Eglwys Dewi Sant. Gwnaed casgliad ar gyfer y "British Legion" a chroesawyd nifer dda o fudiadau lleol. Gosodwyd 13 o rithiau wrth y gofeb. Yn y lluniau gwelwch y Gweinidog a D.G.Davies yn derbyn y baneri yn y Capel. Yna Catrin yn darllen. Lt Jordan yn cyflwyno ei hanerchiad. Y baneri'n cael ei gostwng i swn y "Last Post." Y "Brownies" ar eu ffordd i osod eu rith, a'r brawd Dewi Daniel yn gosod rith y Capel, a'r gofeb a'r rithiau arni.
8.11.13
Shwl-di-Mwl
Daeth y cwmni "Shwl-di-Mwl" ag amrywiaeth o ddillad plant i sioe ffasiynau gynhaliwyd yn Ysgol Gynradd Saron Rhydaman nos Iau Tachwedd 8fed. Pwyllgor lleol, o dan arweiniad Shirley Taylor oedd wedi trefnu hyn, ymhlith nifer o ddigwyddiadau diddorol eraill i godi arian ar gyfer 'Steddfod Genedlaethol Sir Gar i'w chynnal yn Llanelli yn 2014. Plant yn perthyn i Gapel Saron ac i'r ysgol oedd y modelau. Ar ddiwedd noson hynod lwyddiannus roedd cyfle i bobl brynu neu archebu dillad, a mwynhawyd gwin a "cup cake" gan bawb cyn troi am adref. Diolch i'r brawd Owen Young am ddod a'i gynnyrch i'w arddangos er budd achos teilwng. Yn y lluniau gwelwch rai o'r ifanc fuont yn cerdded "Rhodfa'r-Gath"(Cat Walk) i ddangos y dillad.
4.11.13
CROESO ADREF
Ar Sul Tachwedd 3ydd gwelwyd y Dr Eiddon Davies ai briod Heather yn ymuno a Chapel Saron fel llawn aelodau. Cyn ymddeol bu Dr Davies yn feddyg yn Killay ger Abertawe. Mae'n fab i'r enwog Agnes Davies, pen campwriag snwcer Prydain yn ei dydd, ac yn aelod ffyddlon o'r Capel fel ei phriod Dick Davies. Y mae gan Eiddon a Heather ddau o blant a phump o wyron. Dymunen yn dda iddynt ac edrychwn ymlaen at ei cmwni yn yr addoliad am flynyddoedd i ddod.
Daeth un arall adref yn yr un oedfa, sef Mr Brynmor Thomas un o feibion ffermdy Cwmbach Saron. Bu mam Brynmor byw hyd at ei 101, ac y mae cysylltiadaur teulu yn rhai chynnes a chlos iawn a'r Capel. Y mae yntau yn dad i un merch ac yn dadcu. Hyderwn gael llun ohono yntau maes o law, Ond y tro hwn Dr Davies ai wraig sydd yma. Bendith arnynt i gyd.
16.10.13
Diolchgarwch Ysgol Gynradd Saron Rhydaman
Bore dydd Mercher Hydref 16eg gwelwyd Capel Saron dan ei sang. Roedd Ysgol Gynradd y pentref yn cynnal ei hoedfa Ddiolgarwch flynyddol. Dim ond y dosbarthiadau isaf oedd wrthi, a gwahoddwyd eu teuluoedd i fod yn bresennol i fwynhau a derbyn bendith o weinidogaeth y bychain hyn. Yn ymuno a hwy gwelwyd chwech o Gylch Meithrin Saron, sy'n cyfarfod yn yr Hen Gapel. Byddant hwy yn symud i'r "Ysgol Fawr" yn ystod y tymor nesaf.
Cafwyd oedfa ystyrlon ar y thema Lliwiau, a phob plentyn yn dweud gair ac ymuno yn y canu. Un o uchafbwyntiau'r cyfarfod oedd stori gan y chwaer Einir Jones (bardd Coronog a chyn athrawes yn Ysgol Gyfun Dyffryn Aman). Tynnodd sylw at hadau, a'r ffrwythau fydd yn dod ohonynt. Pwysleisiodd yn ddealladwy iawn ein dibyniaeth ar Dduw a'n cyfrifoldeb o stiwardio'r hyn roddwyd yn ein ein gofal.
Daeth y sesiwn i ben gyda Bendith draddowdwyd gan y Parchg E. Lyn Rees a gymrodd gyfle i wahodd rhieni i anfon eu plant i Ysgol Sul y Capel. Tynnodd sylw hefyd at ddyled yr ardal i bennaeth yr Ysgol - sef Mrs Gwenda Easton a'i staff ymroddedig, a cawsant gymeradwyaeth haeddiannol.
Yn y lluniau gwelir Mrs Easton yn y pulpud, rai o'r plant wrth eu gwaith, Mrs Einir Jones yn traddodi ei neges gan ddefnyddio Power Point, ac un o addurniadau blodeuog welid ar y ffenestri.
22.7.13
GWOBRWYO LLWYDDIANT
Bob blwyddyn bydd y Capel yn cynnig gwobr i blentyn yn Ysgol Saron, sy', yn ol barn y Brifathrawes Gwenda Easton, wedi datblygu fwyaf mewn ystod eang yn ei gyfnod yn yr ysgol. Elenni roedd raid' rhannu'r wobr. Felly, ar fore teg gwelwyd ein Gweinidog yn mynd yn ysgafn droed i gyflawni'r gorchwyl pleserus hwn. Dylid dweud ei fod yn gyfarwydd a'r Ysgol ac heb felly fod yn ddieithr i'r plant, caiff y fraint o gynnal gwasanaeth yno bob mis. Jed Anthony o ddosbarth 6B a Celyn Oxenham o ddosbarth 6A welir yn y llun gyda Mrs Easton a'r Gweinidog.
Pleser bob amser gan y Capel yw cefnogi a dangos mewn dull ymarferol werthfawrogiad o ymdrechion plant yr ardal.
Subscribe to:
Posts (Atom)