17.7.12
GWOBRWYO:
Bob blwyddyn bydd Capel Saron yn rhoddi gowbr i blentyn yn Ysgol Gynradd Saron. Rhoddi'r hi ar sail ei ddatblygiad yn ystod y flwyddyn flaenorol. Elenni cafodd ei rhannu rhwng Tom Pugh a Kayleigh Northam. Roedd y ddau yn ol barn eu hathrawon,y Brif Athrawes Mrs Gwenda Easton, ac hefyd piniwn y plant, yn llawn haeddu eu cymeradwyo.
Yn y llun gwelir Gweinidog Capel Saron, y plant a Mrs Easton. Bydd Mr Rees yn mynychu'r Ysgol yn rheolaidd bob mis i gynnal gwasanaeth,
braint a werthfawrogoa'n fawr.
8.7.12
BARBECIW'R CAPEL
Wedi oedfa effeithiol iawn gan ieuenctid y Capel - hanes Moses yn cael ei achub pan yn faban - aeth pawb ir Festri i fwynhau cinio blasus o sosej, byrgyr, cibab a gwahanol fathau o lysiau, gyda salad ffrwythau ffres yn dilyn. Paratowyd y cyfan gan y chwiorydd er mawr fwynhad y bwytawyr.
Y tri cogydd oedd Ian, Robert a Bleddyn- tri llanc os nad yn y ffwrn dan, yn agos iawn ati!
Cafodd pawb ei weddill ai wala.
Yn y lluniau gwelwch y cogyddion, rhai o'r bwyatwyr yn mwynhau, a Nel yn rhoddi cusan i'w pherthynas Harri.
Gwenodd yr Haul tu allan a'r gymdeithas hyfryd oddi-fewn.
http://youtu.be/yHpsUQFWclU
11.6.12
CROESO ADREF
Roedd Jayne Picouto ( ar y dde yn y llun) yn falch iawn o groesawu ei chwaer Anne Cunnah adre ar ymweliad o Awstralia. Ymfudodd Anne yno flynddoedd yn ol, a gyda'i gwr John godi teulu -dau o fechgyn gydag enwau Cymraeg - Aled ac Osian. Daeth y teulu estynedig at eu gilydd ar Sadwrn Mehefin 2ial i gartref Jayne yn y Betws, Rhydaman, i ail gydio adnabod a rhannu hen atgofion. Pob dymuniad da i Anne ac i John wrth ddychwelyd i wlad y cangarw! Y mae Jayne yn ddiacones weithgar yng nghapel Saron.
1.6.12
Cymorth Cristnogol:
Daeth nifer dda ynghyd Nos Wener Mai 25ain i 'Noson o Pwdin a Paned.' Ymdrech i godi arian ar gyfer Xtian Aid, a lwyddodd i gyrraedd £470. Rhoddwyd heibio mynd o dy i dy ers amser a gwneir mwy o arian mewn ymdrechion fel hyn. Cafodd pawb rhywbeth wrth ei flas o ddwylo dawnus merched y Capel. Gwelir rai oedd yno yn y lluniau yma:
Siec y Gweithgor:
Nos Iau Mai 31 daeth tyrfa i'r Capel i gyflwyno Siec o £2,350 i Ambiwlans Awyr Cymru. Roedd Aleodau Gweithgor Bedyddwyr Gogledd Myrddin wedi casglur swm yn ystod y ddwy flynedd flaenorol. Cyn ei roddi gan Mrs Einir Jones i'r Cynghorydd Alun Davies, oedd yn cynrychiolur AAC, cafwyd gyfres o sgetshis difyr iawn ar sgamie ar y We, gan 'Gwmni Drama'r Fedwen.' Cyn ymadael gwelwyd pawb yn mwynhau lluniaeth ysgafn yn y Festri.
20.5.12
Mai 20fed
Sul diwethaf bur oedfa tu allan yn yr awyr agored, a chafwyd tywydd ffafriol. Y rheswm oedd ein bod yn cynnal oedfa arbennig i ddiolch am ein hanifeiliad anwes. Rheini sy'n dod a cymaint o gysur a hapusrwyd i ni. Gwelwyd nifer dda o yn bresennol ac yn eu plith Doug a par o ieir Bantam hardd; Sion a cwningen o'r enw winwns; Brychan a Cavashaun or enw Cadi
, Megan a spaniel o'r enw Jack, Griffith a terrapin a Llyr penbyliaid. Yn rhyfedd nid oedd cath ar gyfyl y lle. Doeth efallai. Cymrwyd
rhan yn y gwasanaeth gan Dewi, Jayne, Osian a Rachel. Credir i bawb ymadael gan ddiolch ir Arglwydd am roddi creaduriad mor hyfryd yn ein gofal.
7.5.12
Sul Mai 6ed.
Gwelwyd y Parchedig yn derbyn wyth aelod, y rhai a fedyddiwyd y Sul cynt sef Catrin Clarke, Linda Davies, Ifan Rees, Sion Davies a Russell Davies, a tri oeddent yn ail gydio am eu haleodaeth yn Saron sef Maureen a Cliff Davies ag Eirwyn Richards. Rydym wedi elwa o wasanaeth Eirwyn wrth yr organ ers meityn bellach, a braf ei gael yn sefyll gyda ni.
Yn yr oedfa Fedydd cymrwyd rhan gan rai o'n haelodau ifanc - Bella, Nia, Sian, Rhodri, Iwan, Gio a Ffion.
Fe gymunodd 54 yn y Cymundeb, a gwobrwywyd y rhai fedyddiwyd a chopi dwyieithog o'r Testament Newydd. Roedd yn hyfryd cael cwmni'r Parchedig Lewis Williams yn yr oedfa, ond trist gweld bod afiechyd wedi a gyfyngu i gadair olwyn ar hyn o bryd.
Edrychwn mlaen nawr at Sul nesaf - oedfa Bendithio Anifeiliad Anwes - Pet Blessing Service!
Yn y lluniau fe welir
Catrin, Ifan, Sion a Linda.
10.4.12
Y Pasg
Sul Ebrill 1taf gwelwyd cynrychiolaeth o 7 capel Bedyddwyr o amgylch Rhydaman wedi casglu yng nghapel Pisgah Penybanc i ganu mawl. Yr arweinydd oedd Mr Jonathan Morgan, a bu'n hwylus a charedig wrth ei waith. Yn cyfeilio roedd hen ffrinidau'r Gymanfa - Band y Diarhebion. Cafwyd un eitem a honno'n unawd hynod effeithiol gan y chwaer Gloria Davies - Ebeneser Rhydaman. Hi hefyd oedd wedi gosod y blodau, ar ffurf croes, wrth y pulpud. Arwydd o'r amserau yw mai ond un oedfa geir bellach.
Bore'r Sul canlynol roeddem eto ym Mhisgah. Y tro hwn i wrando pregeth gan y Parchedig John Talfryn Jones - Ebeneser Rhydaman, ac i rannu'r cymundeb gyda'n gilydd. Gweinydddwyd hwnnw gan y Parchg E Lyn Rees Saron. Neges y Pregethwr oedd ein bod yn cael ein hadnabod gan ein "hacen".
Subscribe to:
Posts (Atom)
