Capel Saron Rhydaman
Gweinidog: Y Parchg E. Lyn Rees, B.A., B.D.

Diaconiaid:
Y Chwiorydd: Gaynor Parry; Jane Picouto; Rachel Arnold; Janet Jones; Gwenda Easton; Christine Rees.

Y Brodyr: Dewi Daniel; Osian Rees; Rowland Jones.

Swyddogion:
Ysgrifennydd: Gaynor Parry
Trysorydd: Janet Jones
Ysgrifennydd Ariannol: Margaret Holmes
Ysgrifennydd y Fynwent: Rowland Jones
Cyhoeddwyr: Dewi Daniel a Rachel Arnold
Organyddion: Eirwyn Richards a Rosanne Williams

Swyddogion y Chwiorydd: Gaynor Parry (Ysg) a Heulwen Rees (Trys)

Swyddogion yr Ysgol Sul: Gaynor Parry (Ysg) a Heulwen Rees (Trys)

Swyddog Iechyd a Diogelwch: Brynmor Thomas

Trefnydd Rhestr Flodau: Margaret Holmes

Gofal y Gronfa Gymdeithasol: Rachel Arnold

OEDFAON
Oedfa'r Sul am 10.30 o'r gloch y bore.
Cymundeb ar fore Sul cyntaf bob mis.
Cwrdd Gweddi nos Lun olaf y mis am 7.00



4.7.16

Derbyn aelodau

Bore Sul Gorffennaf 3ydd, derbyniwyd y pedwar fedyddiwyd Gorffennaf 19eg, ynghyd a'r chwaer Annette Davies  yn aelodau o'r Capel. Yn y llun gwelir o'r chwith i'r dde, David, Michael, Annette, Caitlin ac Osian.



28.6.16

Paratoi am Fedydd

Ar fore Sadwrn, Mehefin 18eg 2016 gwelwyd Caitlin Rees, Osian Clarke, David Williams a Mike Rees yn cymryd mesur o'r fedyddfan. Synnwyd hwy gan ei maint a'i dyfnder. Yfory bydd yn llawn dwr a'r awyrgylch yn wahanol iawn.


13.6.16

Sul yr Hetiau

Dydd Sul, Mehefin 5ed, cynhaliwyd oedfa pan welwyd yr aelodau yn gwisgo hetiau. Daeth hyn yn ol ag atgofion o dyddiau pan oedd gwisgo het i'r Capel yn arfer cyffredin. Dyma lun o rai o'r aelodau yn eu hetiau.

29.2.16

Gwyl Dewi Sant

Dathlwyd yr wyl elenni ar Chwefror 28  oherwydd bod Mawrth y cyntaf yn syrthio braidd yn lletchwith.  Cafwyd cynulliad da iawn a mwynhawyd yr eitemau baratowyd gan ein Hysgol Sul o dan aweiniad y chwaer Gaynor Parry.  Wedi'r oedfa aeth y mwyafrif i'r Festri i fwynhau bowlenaid o gawl blasus, Welsh cakes a bara brith.  Y cyfan wedi ei gyfrannu gan yr aelodau.
Yn y lluniau isod fel welwch Harri a'i chwaer fach Amelia a Nel, ac yna Harri a Nel - hi yn ei gwisg Gymreig y tro hwn.  Yna Mari a'i ffrind Katie Lee, a tri gwr sef y Dr Eiddon Daves ar y chwith, Lawrence Raison yn y  canol a Keith Davies - cefnder i Eiddon. Y mae ef newydd ddychwelyd i Gymru ar ol deugain mlynedd yn Toronto.  Do, cafwyd bore hapus yn cofio am ein Sant.




27.2.16

Siec i Alzheimers

Yn ystod oedfa Gymundeb ar fore Sul Chwefror y 7fed 2016 cafodd yr aelodau yr hyfrydwch o gyflwyno siec i Gwen James - cynrychiolydd yr Elusen Alzheimers.  Codwyd £630 mewn cyngerdd Nadolig a rhoddion unigol ar gyfer yr Elusen.  Y mae ganddi ganolfan - "Ty Perthyn"- yn Hall Street Rhydaman lle y mae cyngor a chymorth ar gael i bobl sy'n ymwneud a'r afiechyd hynod gyffredin hwn.  Yn y llun gwelwch ein Trysoryddes Janet Jones (ar y chwith) yn estyn ein siec i Gwen James - o'r Elusen.
.

20.5.15

Oedfa i'r Cleifion

Gwelwyd aelodau o'r Capel yn mynd i Ysbyty gymunedol Glanaman erbyn hanner awr wedi un brynhawn Sul Mai 17, i gynnal oedfa. Bydd oedfa yno unwaith bob mis a gwahanol gapeli o'r cwm yn cymryd rhan. Roedd gennym aelod yno y tro hwn - sef y Chwaer Evelyn Morgans, a balch oedd hi ein gweld. Roed ein organnydd Eirwyn Richards wrth y piano, Caitlin Rees yn darllen o'r ysgrythur, ag Yvette McKenzie ag Emrys Griffiths yn cyhoeddu'r emynau. Yn arwain yr oedfa oedd ein Gweinidiog. Nododd y bu raid i'r Iesu gael help i gario ei groes, ac felly ninnau pan fyddwn mewn gwendid yn gorfod dibynnu ar eraill- y meddygon a'r nyrsis yn y cyswllt hwn.
Yma gwelwch Yvette, Caitlin Mike ag Emrys
Dyma Evelyn rhwng Caitlin a Mike.

18.5.15

Darllenathon a Phwdin!

Nos Wener, Mai 15, bu aelodau wrthi'n darllen llyfr y Diarhebion. Fe gymrodd ddwy awr a phum munud i 19 fynd drwy'r 31 pennod. Yna aeth pawb ir Festri i fwynhau Pwdin a Phaned. Llwyddwyd i godi dros £650 mewn ymateb i apel Cymorth Cristnogol ar ran trychineb Nepal. Gwelwch yn y lluniau isod rai o'r darllenwyr, yna pobol yn mwynhau wrth y byrddau, a phedair oeddent yn gweini-Nia,Janet,Gwenda a Christine.
1