1.3.15
Dathlu dydd Gwyl Dewi
Mawrth y cyntaf; Trodd yn tywydd yn garedig i ganiatau i dros 60 i ddod i'r dathlu. Cafwyd darlleniadau addas gan Jayne Picouto a gweddiau gan Janet Jones. Yna braslun diddorol o fywyd ein nawddsant gan Heulwen Rees a Gaynor Parry, trefnwyr y bore, cyn ein bod yn cael cyfranidau'r plan, pob un yn werth ei glywed. Ymlaen wedyn at y Cymundeb gyda 48 yn Cymuno cyn mynd i'r Festri i fwynhau cymdeithas dros fowlen o gawl blasus, bara brith, pice bach a phaned o de. Wrth yr organ oedd ein ffyddlon Eirwyn Richards. Gobeithio y medrwch ddal awyrgylch hapus y bore drwy'r lluniau yma.
1.2.15
Sul Prysur
Oedd yn wir, 'roedd oedfa Gymun ar y cyntaf o Chwefror yn un hwylus a llawn gweithgaredd. Cyn gweinyddu'r Cymun cyflwynwyd siec o £500 i Ms Wendy Evans - cynrychiolydd y British Heart Foundation yn yr ardal. Cafwyd esboniad ganddi o waith yr elusen yn ein cylch. Roedd hyn yn addas iawn oherwydd i ddau o'nhaelodau - y brodyr Huw Lewis a Rowland Jones elwa o driniaeth ar y galon yn gymharol ddiweddar.
Yna derbyniwyd y chwaer Avril Beynon (merch yng nghyfraith y diweddar Barchg Islwyn Beynon - fu'n weinidog Carmel a Llandyfan) yn aelod. Hefyd ei merch y Dr Lisa (Beynon) Hewitt - in absentia. Y mae Lisa'n feddyg yn Llundain ond cawn ei chwmni ar ei hymweliadau cyson a'i mam yn Rhydaman.
Roedd ymwelydd yn haeddu sylw- sef y brawd Emrys Griffiths sydd wedi dod i'n plith i fyw yng Nghwmfferws. Gobeithio y cawn ei gwmni mewn oedafon y dyfodol.
Yn olaf cadarnahwyd y chwaer Margaret Holmes yn Ysgrifenydd Ariannol y Capel, gan y gynulleidfa - dros 52 ohoni. Dyma ferch o deulu sydd wedi gwasanaethu'r Capel ers blynyddoedd - roedd ei thad yn ddiacon a'i mam yn gofalu am fara'r Cymundeb, rhywbeth y mae Maragaret wedi ei gario mlaen er dros 40 mlynedd.
Oedd, 'roedd yn oedfa fendithiol er i ni gael ein sobri gan gyfeiriadau'r Gweinidog at Auschwitz a dyfnderodd llygredd calon dyn.
Yn y llun gwelwch Wendy yn derbyn y siec gan Janet Jones- ein trysoryddes, a'n Gweinidog.
15.12.14
Sul Arbennig
Do, bu Sul Rhagfyr 14 yn un arbennig iawn. Yn bore gwelwyd ein ieuenctid wrth ei gwaith o dan arweinad athrawon yr Ysgol Sul - Gaynor a Heulwen. 'Roedd blas o'r Nadolig o edrych ar Nel (Mair) a Harri (Joseff) yn ei gwisgoedd. Cafwyd darlleniadau gan Ifan a Mia, gweddi gan Joseff Rees ag eitemau gan: Sion ar y cornet, unawd gan Mari yna deuawd gyda Anya; Catrin a Lydia- deuawd, a chaneuon gan y grwp merched yn cynnwys Katy Lee.
Yn yr hwyr am hanner awr wedi chwech cynhaliwyd ein cyngerdd flynyddol.Fel arfer Band y Diarhebion oedd yn cyfeilio, a chafwyd canu hwylus o garolau dan ei harweiniad. Roedd darllenaidau Ysgrythuol ac eraill pwrpasol ar gyfer yr Wyl. Y rhai a gymrodd ran oedd: Ifan - darllen; nils ar y trombone; darllen -Fion; Eitemau gan gor Ysgol gynradd Saron; Sian - darllen; gair gan Jane Lewis ar ran y "British Heart Foundation" - elusen y noson; unawd gan Osian Clarke a darlleniad gan Mia. Yn cadw pob dim at ei gilydd oedd ein Gweinidog
Isod fe welwch rai lluniau or pbobol yn cymryd rhan yn y ddau achlysur. Dymunwn Nadolig bendithiol i bawb sy'n clicio'i ffordd i fewn i'r Blog hwn, a Blwyddyn newydd Dda!
10.11.14
Cadoediad 2014
Tachwedd 9fed a Phrydain i gyd yn cofio am drueni a thrueiniaid rhyfelodd.Daeth tyrfa gref i Gapel Saron i uno yn y cofio. Y pregethwr oedd y Parchg Paul Mainwaring. Tynnodd ein sylw at sumbol y pabi coch ac atgofiodd ni fod rhyfel yn cychwyn yng nghalon dyn. I'w ddisodli rhaid llenwi'r galon a chariad, a dim ond Duw drwy Iesu Grist all wneud hynny. Darllenwyd o'r Testament Newydd, ar ran y Capel gan Rachel Williams, ac o'r Hen Destament gan Ann Owen ar ran Eglwys Dewi Sant,Yn bresennol oedd aelodau o'r British Legion, A.T.C., R.A.F.A, a holl gymdeithasau ein hardal ac wrth gwrs cynrycholiaeth o Eglwys Dewi Sant a'r Capel. Robert Holmes osododd ein rith. Roedd 11 ohonynt i gyd, heblaw croesau.Y trwmpedwr oedd Huw Thomas, a Major Ken Burton a gyhoeddodd y geiriau teimladwy hynny - "They shall not grow old..." Piti garw bod raid dweud yr un geiriau o flwyddyn i flwyddyn. Ymunodd y glaw a dagrau llawer.
Yn y lluniau gwelwch ein Gweiniodg, y Parchg Paul Mainwaring, Major Ken Burton a Huw Thomas y Trympedwr, a'r baneri yn cael eu gostwng.
14.9.14
OEDFA'R HETIAU
Cafwyd oedfa arbennig bore Sul heddiw - Medi 14. Daeth nifer dda i'r cyfarfod wedi gwisgo hetiau. Deffrodd yr olygfa atgofion hapus iawn i lawer ohonom o'r dyddiau cynt pan oedd gwisgo het yn ran o wisg addoli. Nid yw hynny'n wir bellach ers s'lawer dydd. Crewyd awyrgylch ddifyr tu hwnt. Cafwyd esboniad gan y Gweinidog o darddiad yr arfer o wisgo hetiau ar hyd yr oesau cyn ein harwain at yr Apostol Paul yn edrych ymlaen at gael gwisgo coron cyfiawnder. Yn wir mwynhawyd yr oedfa yn fawr, ac edrychir ymlaen at un arall ymhen blwyddyn. Deus vult! Fe welwch wrth y ddau lun y pleser ar wynebau rhai o'r aelodau oeddent yn eu hetiau.
8.9.14
WAL, a LLONGYFARCHIADAU
Wedi mis o waith gofalus a thaclus daeth y llafur o ail godi'r WAL wrth yr Hen Fynwent i ben. Mae'n debyg i'r hen barhau tua dwy ganrif a chenedlaethau o blant wedi cerddedd ar hyd iddi. Hyderir i'r WAL hon wisgo cystal a rhoi llawer o bleser i blant y dyfodol. "Heritage 2000" ymgymrodd a'r gwaith. Fe welwch yn y lluniau isod brawf o'i crefft.
Estynnwn ein LLONGYFARCHIADAU i'r chwaer Gaynor Parry. Urddwyd hi'n lywydd y Senana am y flwyddyn nesaf. Y mae Gaynor yn haeddiannol o'r swydd pebae ond am ei ffyddlondeb i'r Achos yn Saron a'r oll a olyga hynny. Yn ystod yr oedfa cymrwyd rhan gan eraill o chwiorydd y Capel - darllen gan Gwenda Easton, gweddi gan Christine Rees a chafwyd adroddiad y Trysorydd- Heulwen Rees- a nododd bod y Senana wedi casglu £2,7000 tuag at y B.M.S yn ystod y flwyddyn. Cafwyd anerchiad diddorol gan y cyn lywydd - Mrs Lyn Morgan - soniodd am ei hymweliadau a dinas Hong Kong. Diolchwyd iddi gan Jayne Picouto. Roseanne Williams oedd wrth yr organ. Noson ddifyr ac adeiladol. Cyfarchwyd y cyfarfod, a gymrodd le nos Iau Medi 4ydd, ar ran y Capel gan ein Gweinidog.
19.7.14
BARBECIW A GWOBR
Dydd Sul Gorffennaf 13 - bore Barbeciw yr Ysgol Sul. Daeth nifer dda i'r oedfa a drenfwyd gan Gaynor Parry. Cafwyd hanes Joseff wedi ei ddarllen yn ddramatig gan Rachel Arnold, Heulwen Rees, Gwenda Easton a Gaynor. Arweiniwyd ni mewn gweddi gan Ifan Rees. Cyhoeddywd yr emynau gan Megan a Sion. Wrth yr organ oedd Nils Richards. Yna i'r festri, gyda gwynt y coginio'n tynnu dwr i ddannedd pawb. Chware teg i Andy Easton, Joseph Rees a Bleddyn Jones bu'n chwysu uwch y tan, daeth y cig- byrger, cyw iar a sosej i'r bwrdd mewn byr amser a phlesio pawb. Nid hynny'n unig chwaith. Roedd ein chwiorydd hael wedi dod a bowleni o salad ffrwythau ar ein cyfer - iachus ynte!
Nos Iau 17 mewn seremoni i ddosbarth uchaf ein Hysgol Gynradd, cafodd un o ferched yr Ysgol Sul ei anrhydeddi. Dewiswyd hi gan y Brif Athrawes - Gwenda Easton i dderbyn gwobr flynyddol y Capel. Caiff ei rhoi i ddisgybl sy' wedi dangos y datblygiad a'r addewid mwyaf yn ystod y flwyddyn. Elenni Hannah Davies oedd honno. Da iawn Hannah.
Yn y lluniau fe welwch brysurdeb ariannol y gwledda - gyda Gaynor a Karen yn gofalu fod modd ar gael i dalu am ein pleser. Bleddyn yn barod i ymosod ar sosej, a Margaret yn pwyllo cyn mentro ar goes cyw iar. Yna - does mam a'i mab yn mwynhau - Christine a Joseff - yntau newydd ennill gradd Dau Un ym mrhifysgol Reading.
Hawdd adnabod Hannah,a'i hwyneb siriol yn dangos ei mwynhad o gael ei anrhydeddi. Gyda hi y mae'n Gweinidog a Phrif Athrawes yr Ysgol.
Subscribe to:
Posts (Atom)