26.12.12
Cyfnod Nadolig 2012
Bu cyfnod y Nadolig yn un prysur iawn yng Nghapel Saron. Cychwynodd pethau gyda Chymundeb Rhagfyr 2ail pan gynnwyd cannwyll gyntaf torch yr Adfent - a'n hatgofio o Broffwydi'r Hen Destament.
Sul Rhagfyr 9fed - y brawd Dennis Morgan yn y pulpud gyda neges bwrpasol iawn. Cynnwyd yr ail Gannwyll - cannwyll Ioan Fedyddiwr.
Rhagfyr 16eg 'roedd Gaynor Parry wedi llunio rhaglen yn cyflwyno neges y Geni drwy ohebydd yn darlledu adroddiadau ac ymatebion iddo o wahanol rannau o'r byd. Cynnau yr drydedd gannwyll - yn cynrychioli'r Forwyn Fair, cyn i bawb i'r Festri am baned a mins pei cyn troi am adref.
Yn yr hwyr cynhaliwyd Cyngerdd Nadolig y Pentref - gyda darlleniadau, carolau a chynnau Canhwyllau Cariad er cof am annwyliaid gollwyd yn ystod y flwyddyn. Roedd y Capel yn llawn, a chodwyd £635 ar gyfer Shelter Cymru. Roedd cynrychiolydd o'r elusen yno - a chafwyd esboniad o'r gwaith ganddo. Synnwyd pawb bod cymaint a 70,000 yn cael eu helpu.
Rhagfyr 23 - oedfa arbennig yr Ysgol Sul - a'r pedwerydd gannwyll yn cael ei chynnau i'n cynrychioli ni - Eglwys Crist yn y byd. Do, cafwyd ragor o fins peis!
Nos Nadolig bu un o'n bechgyn ifanc - Nils Richards a dau gyfaill yn chwarau carolau yn Tesco Rhydaman, gyda Joseph Rees a'r Gweinidog mewn hetiau Santa yn casglu - eto ar gyfer Shelter Cymru. Cafwyd ymateb da gan y cyhoedd, a diolch i Tesco am ganiatau y fenter.
Bore Nadolig, am naw, daeth dros 60 at eu gilydd, a cymunodd 47 ohonynt mewn oedfa emosiynol a theimladwy. Yna am un ar ddeg aeth y Gweiniodg a tua dwsin o aelodau i gynnal oedfa o garolau a Chymundeb yn ysbyty Gymunedol Glanaman.
Ie cyfnod hapus iawn lle gwelwyd yr aelodau yn barod, fel arfer, i rannu eu talentau er clod i'r Arglwydd mewn haelioni a chymryd rhan yn y gwasanaethau. Hyderir bod y Nadolig wedi bod yn un bendithiol i bawb o fewn a thu allan i'r Capel.
Yn y lluniau isod gwelir rai o'r aelodau yn mwynhau paned a phicen yn y Festri.
Subscribe to:
Posts (Atom)