Ar fore braf o Hydref daeth cynulleidfa o dros gant i'r Capel ar gyfer ein Cadoediad blynyddol. Yn bresennol oedd ein gwleidyddion lleol - Alun Davies a Peter Cooper, y British Legion a'r A.T.C. Yn newydd oedd presennoldeb cor merched - "Persian" o dan ei harweinydd medrus Anne Wheldon ar cyfeilydd Catherine Morgan. Cawsom ddau ddarn addas iawn i'r achlysur greodd awyrgyll ddwys a myfyrgar. Darllenwyd ar ran Eglwys Dewis Sant, Saron, gan Anne Owen ac ar ran y Capel gan Fion Clarke. Y cyntaf yn Saesneg ar ail yng Nghymraeg. Cafodd y Gweinidog help i dderbyn baneri a darllen y rhestr enwau wrth yr Ardd Goffa gan y brawd D Gwyn Davies. Y trympedwr oedd Huw Thomas a'r brawd Ken Burton adroddodd y geiriau - "They shall not grow old..." Gosodwyd 11 o rithau gan gynrhychiolwyr mudiadau'r ardal. Daliodd y Gweinidog sylw'r gynulleidfa drwy dynnu sylw at Faniffesto Crist fel Cadfridog - Luc 4: 18-19. Cadfridog oedd yn barod i farw dros ei ganlynwyr. Nododd hefyd eiriau Paul yn Ephesiaid 6:16-18 a'r angen dwys ar i'r credadyn wisgo'r holl arfogaeth ddwyfol yn y frwydr yn erbyn pwerau'r tywyllwch.
Nos Fercher nesaf, rhwng hanner awr wedi chwech ag wyth bydd gan y Capel noson 'Paned a Chacen' i godi arian ar gyfer apel Cymorth Cristnogol -"Cofiwch y Fam" Gobeithiwn y medrwn lawr lwytho lluniau o'r ddau achlysur yn ein Blog nesaf.
13.11.16
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment