Capel Saron Rhydaman
Gweinidog: Y Parchg E. Lyn Rees, B.A., B.D.

Diaconiaid:
Y Chwiorydd: Gaynor Parry; Jane Picouto; Rachel Arnold; Janet Jones; Gwenda Easton; Christine Rees.

Y Brodyr: Dewi Daniel; Osian Rees; Rowland Jones.

Swyddogion:
Ysgrifennydd: Gaynor Parry
Trysorydd: Janet Jones
Ysgrifennydd Ariannol: Margaret Holmes
Ysgrifennydd y Fynwent: Rowland Jones
Cyhoeddwyr: Dewi Daniel a Rachel Arnold
Organyddion: Eirwyn Richards a Rosanne Williams

Swyddogion y Chwiorydd: Gaynor Parry (Ysg) a Heulwen Rees (Trys)

Swyddogion yr Ysgol Sul: Gaynor Parry (Ysg) a Heulwen Rees (Trys)

Swyddog Iechyd a Diogelwch: Brynmor Thomas

Trefnydd Rhestr Flodau: Margaret Holmes

Gofal y Gronfa Gymdeithasol: Rachel Arnold

OEDFAON
Oedfa'r Sul am 10.30 o'r gloch y bore.
Cymundeb ar fore Sul cyntaf bob mis.
Cwrdd Gweddi nos Lun olaf y mis am 7.00



15.12.14

Sul Arbennig

Do, bu Sul Rhagfyr 14 yn un arbennig iawn. Yn bore gwelwyd ein ieuenctid wrth ei gwaith o dan arweinad athrawon yr Ysgol Sul - Gaynor a Heulwen. 'Roedd blas o'r Nadolig o edrych ar Nel (Mair) a Harri (Joseff) yn ei gwisgoedd. Cafwyd darlleniadau gan Ifan a Mia, gweddi gan Joseff Rees ag eitemau gan: Sion ar y cornet, unawd gan Mari yna deuawd gyda Anya; Catrin a Lydia- deuawd, a chaneuon gan y grwp merched yn cynnwys Katy Lee. Yn yr hwyr am hanner awr wedi chwech cynhaliwyd ein cyngerdd flynyddol.Fel arfer Band y Diarhebion oedd yn cyfeilio, a chafwyd canu hwylus o garolau dan ei harweiniad. Roedd darllenaidau Ysgrythuol ac eraill pwrpasol ar gyfer yr Wyl. Y rhai a gymrodd ran oedd: Ifan - darllen; nils ar y trombone; darllen -Fion; Eitemau gan gor Ysgol gynradd Saron; Sian - darllen; gair gan Jane Lewis ar ran y "British Heart Foundation" - elusen y noson; unawd gan Osian Clarke a darlleniad gan Mia. Yn cadw pob dim at ei gilydd oedd ein Gweinidog Isod fe welwch rai lluniau or pbobol yn cymryd rhan yn y ddau achlysur. Dymunwn Nadolig bendithiol i bawb sy'n clicio'i ffordd i fewn i'r Blog hwn, a Blwyddyn newydd Dda!

10.11.14

Cadoediad 2014

Tachwedd 9fed a Phrydain i gyd yn cofio am drueni a thrueiniaid rhyfelodd.Daeth tyrfa gref i Gapel Saron i uno yn y cofio. Y pregethwr oedd y Parchg Paul Mainwaring. Tynnodd ein sylw at sumbol y pabi coch ac atgofiodd ni fod rhyfel yn cychwyn yng nghalon dyn. I'w ddisodli rhaid llenwi'r galon a chariad, a dim ond Duw drwy Iesu Grist all wneud hynny. Darllenwyd o'r Testament Newydd, ar ran y Capel gan Rachel Williams, ac o'r Hen Destament gan Ann Owen ar ran Eglwys Dewi Sant,Yn bresennol oedd aelodau o'r British Legion, A.T.C., R.A.F.A, a holl gymdeithasau ein hardal ac wrth gwrs cynrycholiaeth o Eglwys Dewi Sant a'r Capel. Robert Holmes osododd ein rith. Roedd 11 ohonynt i gyd, heblaw croesau.Y trwmpedwr oedd Huw Thomas, a Major Ken Burton a gyhoeddodd y geiriau teimladwy hynny - "They shall not grow old..." Piti garw bod raid dweud yr un geiriau o flwyddyn i flwyddyn. Ymunodd y glaw a dagrau llawer.
Yn y lluniau gwelwch ein Gweiniodg, y Parchg Paul Mainwaring, Major Ken Burton a Huw Thomas y Trympedwr, a'r baneri yn cael eu gostwng.

14.9.14

OEDFA'R HETIAU

Cafwyd oedfa arbennig bore Sul heddiw - Medi 14. Daeth nifer dda i'r cyfarfod wedi gwisgo hetiau. Deffrodd yr olygfa atgofion hapus iawn i lawer ohonom o'r dyddiau cynt pan oedd gwisgo het yn ran o wisg addoli. Nid yw hynny'n wir bellach ers s'lawer dydd. Crewyd awyrgylch ddifyr tu hwnt. Cafwyd esboniad gan y Gweinidog o darddiad yr arfer o wisgo hetiau ar hyd yr oesau cyn ein harwain at yr Apostol Paul yn edrych ymlaen at gael gwisgo coron cyfiawnder. Yn wir mwynhawyd yr oedfa yn fawr, ac edrychir ymlaen at un arall ymhen blwyddyn. Deus vult! Fe welwch wrth y ddau lun y pleser ar wynebau rhai o'r aelodau oeddent yn eu hetiau.

8.9.14

WAL, a LLONGYFARCHIADAU

Wedi mis o waith gofalus a thaclus daeth y llafur o ail godi'r WAL wrth yr Hen Fynwent i ben. Mae'n debyg i'r hen barhau tua dwy ganrif a chenedlaethau o blant wedi cerddedd ar hyd iddi. Hyderir i'r WAL hon wisgo cystal a rhoi llawer o bleser i blant y dyfodol. "Heritage 2000" ymgymrodd a'r gwaith. Fe welwch yn y lluniau isod brawf o'i crefft. Estynnwn ein LLONGYFARCHIADAU i'r chwaer Gaynor Parry. Urddwyd hi'n lywydd y Senana am y flwyddyn nesaf. Y mae Gaynor yn haeddiannol o'r swydd pebae ond am ei ffyddlondeb i'r Achos yn Saron a'r oll a olyga hynny. Yn ystod yr oedfa cymrwyd rhan gan eraill o chwiorydd y Capel - darllen gan Gwenda Easton, gweddi gan Christine Rees a chafwyd adroddiad y Trysorydd- Heulwen Rees- a nododd bod y Senana wedi casglu £2,7000 tuag at y B.M.S yn ystod y flwyddyn. Cafwyd anerchiad diddorol gan y cyn lywydd - Mrs Lyn Morgan - soniodd am ei hymweliadau a dinas Hong Kong. Diolchwyd iddi gan Jayne Picouto. Roseanne Williams oedd wrth yr organ. Noson ddifyr ac adeiladol. Cyfarchwyd y cyfarfod, a gymrodd le nos Iau Medi 4ydd, ar ran y Capel gan ein Gweinidog.

19.7.14

BARBECIW A GWOBR

Dydd Sul Gorffennaf 13 - bore Barbeciw yr Ysgol Sul. Daeth nifer dda i'r oedfa a drenfwyd gan Gaynor Parry. Cafwyd hanes Joseff wedi ei ddarllen yn ddramatig gan Rachel Arnold, Heulwen Rees, Gwenda Easton a Gaynor. Arweiniwyd ni mewn gweddi gan Ifan Rees. Cyhoeddywd yr emynau gan Megan a Sion. Wrth yr organ oedd Nils Richards. Yna i'r festri, gyda gwynt y coginio'n tynnu dwr i ddannedd pawb. Chware teg i Andy Easton, Joseph Rees a Bleddyn Jones bu'n chwysu uwch y tan, daeth y cig- byrger, cyw iar a sosej i'r bwrdd mewn byr amser a phlesio pawb. Nid hynny'n unig chwaith. Roedd ein chwiorydd hael wedi dod a bowleni o salad ffrwythau ar ein cyfer - iachus ynte! Nos Iau 17 mewn seremoni i ddosbarth uchaf ein Hysgol Gynradd, cafodd un o ferched yr Ysgol Sul ei anrhydeddi. Dewiswyd hi gan y Brif Athrawes - Gwenda Easton i dderbyn gwobr flynyddol y Capel. Caiff ei rhoi i ddisgybl sy' wedi dangos y datblygiad a'r addewid mwyaf yn ystod y flwyddyn. Elenni Hannah Davies oedd honno. Da iawn Hannah.
Yn y lluniau fe welwch brysurdeb ariannol y gwledda - gyda Gaynor a Karen yn gofalu fod modd ar gael i dalu am ein pleser. Bleddyn yn barod i ymosod ar sosej, a Margaret yn pwyllo cyn mentro ar goes cyw iar. Yna - does mam a'i mab yn mwynhau - Christine a Joseff - yntau newydd ennill gradd Dau Un ym mrhifysgol Reading. Hawdd adnabod Hannah,a'i hwyneb siriol yn dangos ei mwynhad o gael ei anrhydeddi. Gyda hi y mae'n Gweinidog a Phrif Athrawes yr Ysgol.

14.6.14

ANIFEILIAID ANWES

Bore Sul Mehefin 8fed, daeth nifer at ei gilydd i oedfa gynhaliwyd ar y maes parcio. Pam hynny? Wel oedfa oedd hi i ddiolch i Dduw am ein hanifeiliaid anwes - ein Pets! Bydd rhain yn gwmni ac yn ddiddanwch i lawer, a iawn yw cydnabod ei cyfraniad i'n hapusrwydd. Cafwyd darlleniadau pwrpasol yn cyfeirio at wahanol greaduriaid. Ni anghofiwyd 'Swansea Jack' achubodd 27 o bobol rhag boddi yn nociau Abertawe. Clywyd am y Gwcw. Aderyn ffals yn ol y bardd y Parch W.D.Roberts -"Mi glywais am ei chastiau, os yw ei chan yn iach, yn gadael ei holl wyau yn nythod adar bach." Moeswers amlwg yn y fan hon! Darllenwyd "Yr Anifeiliaid Caredig" stori o lyfr "Am Fyd" Huw John Huws gan Bella Salini. Ni ellid peidio a chyfeirio at stori drist ond addysgol Gelert a laddwyd oherwydd amryfusedd y tywysog. Eraill yn cymryd rhan oedd Gaynor, Christine, Gill a Heulwen; a darllenodd Dewi Salm 8 lle cawn ein atgofio am ein safle yn y cread, a'n cyfrifoldeb iddo. Roedd Megan a'i thad wedi dod a'r sbaniel. Lydia a thri pysgodyn aur, Eoin ag Orla a'r ci, Sion a Winwns y gwningen a nifer arall a chreaduriad. Do, bu'n oedfa fendithiol dan awyr oedd las ac yn glir. Ni fu canu emynau. Ni thynnodd hynny unrhyw sylw. Tybed os ydym yn canu gormod yn ein hoedfaon a'r sylwedd y diflannu yn y swn?

7.6.14

DAL I FYNY

Raid cychwyn gyda ymddiheuriad am y gwacter diweddar yn yr hanes am ddigwyddiadaur Capel. Felly ati heb golli rhagor o amser. Fel y gwyr rhai y mae Capel Saron yn dathlu 200 mlynedd elenni. I dynnu sylw at hynny rhoddwyd baner sylweddol ar y lawnt o flaen y Capel Newydd adeiladwyd yn 1912, yn cyhoeddi - "YMA O HYD" "STILL HERE" 1814-2014 yn fras ac amlwg arno. Hefyd atgofiwyd pobol yn mynd heibio am y Pasg drwy osod Croes sylweddol ar ochor arall y lawnt. Cafwyd dathliadau hapus, hwylus a llwyddiannus. Ar nos Fercher Ebrill 2ail cynhaliwyd cyngerdd. Roedd y Capel yn gyfforddus lawn i fwynhaur gwahanol eitemau. Hyfryd oedd cael presennoldeb y Parch Eirian Wyn - Llywydd yr Undeb - a'i gyfarchion yn ddiffuant a chalonogol. Gwnaed casgliad o £239.50 ar gyfer Banc Bwyd Rhydaman. Bore Sul canlynol cafwyd Gymundeb Undebol gyda aelodau o eglwys Bedyddiedig yr ardal yn dod at eu gilydd ynghyd a Methodistiaid o Gapel Hendre, ag Eglwyswir o Eglwys Dewi Sant - Saron. Rhanwyd yr oedfa rhwng ein Gweinidog a'r Parch John Talfryn Jones Ebeneser Rhydaman. Gwelwyd dros 150 yn cymryd Cymundeb mewn awyrgylch frawdol a chynnes. Mai 9fed: Cynhaliwyd noson o "Bwdin a Paned." Y diben oedd codi arian ar gyfer Cymorth Cristnogol. Profwyd bod hon yn llwyddo'n well na chrwydro o ddrws i ddrws, dull allai fod yn draferthus a gorfod dioddef ambell gyfarchiad tra sarhaus! Erbyn i bob ceiniog ddod i fewn roedd y swm yn £276. Sul Mehefin 1af: Wedi mis o rybudd pleidleisiodd yr aelodau mewn balot gudd yn erbyn cynnal priodasau "un rhyw" yn y Capel.
Deallwyd na fyddai'n Gweinidog yn barod i weinyddu yn y math yna o "briodas." Gresyn bod hyn yn cael ei orfodi ar Eglwysi Iesu Grist.

4.2.14

Darts ag Elusen

Darts. Nid yw'n arferol i Gapel son am chware darts yn y Festri. Ond dyna beth wnaed nos Iau Ionawr 23. Daeth criw at ei gilydd am noson o gymdeithasu, hwyl a sbri. Y bwriad oedd cael tim i gystadlu yn yr ornest drefnwyd gan bwyllgor Codi Arian y Pentref ar gyfer Steddfod Genedlaethol Llanelli elenni. Eisoes codwyd dros £3,500 at y cyfanswm o £5,000 nodwyd ar gyfer cylch Penybanc, Capel Hendre a Saron. Trodd nifer allan, a rhai yn amlwg yn hen law wrth y grefft. Bu'r cystadlu'n frwd ac ar ddiwedd y noson cafwyd fod y merched yn well wrth y gwaith na'r dynion. Tipyn o sioc! Wrth gwrs cafwyd deisenau a phice bach, a te a choffi i gadw pawb i fynd- a gwnaeth y chwareuwyr y mwyaf o'r danteithion hynny. Penderfynwyd ar ddiwedd noson hapus y byddai'n raid cael noson debyg arall cyn gwneud y dewis trefynnol ynglyn a Thim Darts i gynrychiolu'r Capel yn y rownd derfynnol ym mis Mawrth. Yn y llun fe welir y chwaer Margaret Holmes yn anelu am y bwrdd - ni wyddai neb ei bod wedi chwarae unwaith yn y "Ball Room" yn Blackpool! Chwefror 2ail. Bob blwyddyn bydd y Capel yn dewis un Elusen i'w chefnogi - hynny gyda'r casgliadau arferol ar gyfer y B.M.S. Llynedd dewiswyd Hafan i Ferched, Rhydaman. Cynniga hon nodded i wragedd a phlant yn ffoi oherwydd trais a chamdrin adref. Yn 2013 gwelwyd 350 o deuloedd yn ardal Rhydaman yn cymryd mantais ohoni. Trosglwyddwyd siec o £1,000 i ddwy gynrychiolwraig o'r Elusen ar y Sul gan Ysgrifenyddes y Capel sef Mrs Gaynor Parry. Ni enwir y cynrychiolwyr na dangos llun ohonynt - am resymau amlwg.