Capel Saron Rhydaman
Gweinidog: Y Parchg E. Lyn Rees, B.A., B.D.

Diaconiaid:
Y Chwiorydd: Gaynor Parry; Jane Picouto; Rachel Arnold; Janet Jones; Gwenda Easton; Christine Rees.

Y Brodyr: Dewi Daniel; Osian Rees; Rowland Jones.

Swyddogion:
Ysgrifennydd: Gaynor Parry
Trysorydd: Janet Jones
Ysgrifennydd Ariannol: Margaret Holmes
Ysgrifennydd y Fynwent: Rowland Jones
Cyhoeddwyr: Dewi Daniel a Rachel Arnold
Organyddion: Eirwyn Richards a Rosanne Williams

Swyddogion y Chwiorydd: Gaynor Parry (Ysg) a Heulwen Rees (Trys)

Swyddogion yr Ysgol Sul: Gaynor Parry (Ysg) a Heulwen Rees (Trys)

Swyddog Iechyd a Diogelwch: Brynmor Thomas

Trefnydd Rhestr Flodau: Margaret Holmes

Gofal y Gronfa Gymdeithasol: Rachel Arnold

OEDFAON
Oedfa'r Sul am 10.30 o'r gloch y bore.
Cymundeb ar fore Sul cyntaf bob mis.
Cwrdd Gweddi nos Lun olaf y mis am 7.00



1.2.15

Sul Prysur

Oedd yn wir, 'roedd oedfa Gymun ar y cyntaf o Chwefror yn un hwylus a llawn gweithgaredd. Cyn gweinyddu'r Cymun cyflwynwyd siec o £500 i Ms Wendy Evans - cynrychiolydd y British Heart Foundation yn yr ardal. Cafwyd esboniad ganddi o waith yr elusen yn ein cylch. Roedd hyn yn addas iawn oherwydd i ddau o'nhaelodau - y brodyr Huw Lewis a Rowland Jones elwa o driniaeth ar y galon yn gymharol ddiweddar. Yna derbyniwyd y chwaer Avril Beynon (merch yng nghyfraith y diweddar Barchg Islwyn Beynon - fu'n weinidog Carmel a Llandyfan) yn aelod. Hefyd ei merch y Dr Lisa (Beynon) Hewitt - in absentia. Y mae Lisa'n feddyg yn Llundain ond cawn ei chwmni ar ei hymweliadau cyson a'i mam yn Rhydaman. Roedd ymwelydd yn haeddu sylw- sef y brawd Emrys Griffiths sydd wedi dod i'n plith i fyw yng Nghwmfferws. Gobeithio y cawn ei gwmni mewn oedafon y dyfodol. Yn olaf cadarnahwyd y chwaer Margaret Holmes yn Ysgrifenydd Ariannol y Capel, gan y gynulleidfa - dros 52 ohoni. Dyma ferch o deulu sydd wedi gwasanaethu'r Capel ers blynyddoedd - roedd ei thad yn ddiacon a'i mam yn gofalu am fara'r Cymundeb, rhywbeth y mae Maragaret wedi ei gario mlaen er dros 40 mlynedd. Oedd, 'roedd yn oedfa fendithiol er i ni gael ein sobri gan gyfeiriadau'r Gweinidog at Auschwitz a dyfnderodd llygredd calon dyn. Yn y llun gwelwch Wendy yn derbyn y siec gan Janet Jones- ein trysoryddes, a'n Gweinidog.