25.10.16
Penwythnos Aberfan
Bu penwythnos Hydref 21 yn un dirdynnol i deuluoedd Aberfan. Ail fyw, wedi hanner canrif, chwerwder y golled fawr ddaeth yn sgil esgeulusod amryw ynglyn a tip rhif 7 uwchben ysgol Pantglas. Maes o law nodwyd y Bwrdd Glo yn gyfrifol am y gyflafan, er na chafodd neb ei erlyn na cholli swydd. Tynnodd un aelod o'r Capel ein sylw at arwyddocad y dyddiad sef 21:10:1966. O'i adio 21+10+19+66 ceir y rhif 116! Union nifer y plant a laddwyd gan y slyri didrugaredd. Hynod ynte. Yn ein hoedfa'a'r y Sul nodwyd y golled drwy pawb yn sefyll am funud o dawelwch. Rhyfedd pa mor hir gall munud felly fod. Gobeithio fod gwersi wedi cael eu dysgu o'r hyn a ddigwyddodd ac a dynnodd ddagrau byd a betws.
10.10.16
Diolchgarwch Hydref 9fed 2016
Ar fore Sul oerllyd ond heulog gwelwyd cynulleidfa raenus yn y Capel yn dathlu ein Diolchgarwch. Trefnwyd yr oedfa gan Gaynor a Heulwen ar y thema o Yd a Bara yn y Beibl, a chymrwyd y darllen gan Christine a'r weddi gan Gwenda. Mwynhawyd adroddiad Harri bach o "Tu nol i'r dorth mae'r blawd..., " yna Mari yn canu "Dod ar fy mhen dy sanctaidd law..." a hynny'n ddigyfeiliant am i'r peiriant miwsig fethu!
Roedd gwynt paent yn gryf yn y Capel oherwydd bod gwaith adnewyddu'n dal i fynd - gwerth ei ddioddef. Soniodd y Gweinidog am daten - bod rhaid ei rhoddi yn y pridd er mwyn iddi esgor ar ragor. Felly aelodau - rhaid mynychu achles oedfa os am ddenu aelodau newydd.
Os oedd braidd yn sythlyd yn y Capel - yr hen foiler druan yn disgwyl triniaeth - roedd digon o wres yn y Festri. Cafodd pawb yno ei gwala o fwyd a mwynhau cymdeithas hwylus a gwresog. Mae'r lluniau yn rhoi blas i chi o'r achlysur. Bore dydd Marth nesaf bydd y Gweinidog a Rachel Arnold yn dosbarthu ffrwythau a blodau o'r oedfa i'n henoed (80 a throsodd) a'r rheini sy'n sal neu mewn cartrefi gofal.
Bydd unrhyw elw a wnawn yn ein gweithgareddau o hyn ymlaen yn mynd i Elusen "Cofia dy Fam" sy'n cael ei gefnogi gan ein Cymanfa.

Subscribe to:
Posts (Atom)