22.7.13
GWOBRWYO LLWYDDIANT
Bob blwyddyn bydd y Capel yn cynnig gwobr i blentyn yn Ysgol Saron, sy', yn ol barn y Brifathrawes Gwenda Easton, wedi datblygu fwyaf mewn ystod eang yn ei gyfnod yn yr ysgol. Elenni roedd raid' rhannu'r wobr. Felly, ar fore teg gwelwyd ein Gweinidog yn mynd yn ysgafn droed i gyflawni'r gorchwyl pleserus hwn. Dylid dweud ei fod yn gyfarwydd a'r Ysgol ac heb felly fod yn ddieithr i'r plant, caiff y fraint o gynnal gwasanaeth yno bob mis. Jed Anthony o ddosbarth 6B a Celyn Oxenham o ddosbarth 6A welir yn y llun gyda Mrs Easton a'r Gweinidog.
Pleser bob amser gan y Capel yw cefnogi a dangos mewn dull ymarferol werthfawrogiad o ymdrechion plant yr ardal.
16.7.13
BARBECIW'R CAPEL
Gwawriodd Sul gorffennaf 14eg yn hafaidd braf. Diolch mawr, oherwydd dyna fore Barbeciw flynyddol y Capel. Yn gyntaf cafwyd oedfa - stori i'r plant yn adrodd hynt aderyn mor mewn trafferthion ar lannau Bae Trearddur y Ynys Mon. Yna anerchiad ar y thema o safonau gan gyfeiro at Grist fel ein patrwm a'n mesur ar gyfer bywyd.
Allan wedi'n i haul hyfryd ac i'r Festri oedd wedi ei pharatoi ar gyfer y bwyd. Chware teg bu dau wrthi'n chwysu uwch y tan i baratoi pob darn o gig yn fres ar ein cyfer - os ennillodd rai bwysau yn sicr i Paul Thomas a John McWilliam golli mwy nag owns yn gwres - hwnnw o'i blaen ac uwch eu pennau! Bore hapus o gymdeithasu iach.
Yn y lluniau canlynol fe welwch y mwynhau wrth y byrddau.
Subscribe to:
Posts (Atom)