Capel Saron Rhydaman
Gweinidog: Y Parchg E. Lyn Rees, B.A., B.D.

Diaconiaid:
Y Chwiorydd: Gaynor Parry; Jane Picouto; Rachel Arnold; Janet Jones; Gwenda Easton; Christine Rees.

Y Brodyr: Dewi Daniel; Osian Rees; Rowland Jones.

Swyddogion:
Ysgrifennydd: Gaynor Parry
Trysorydd: Janet Jones
Ysgrifennydd Ariannol: Margaret Holmes
Ysgrifennydd y Fynwent: Rowland Jones
Cyhoeddwyr: Dewi Daniel a Rachel Arnold
Organyddion: Eirwyn Richards a Rosanne Williams

Swyddogion y Chwiorydd: Gaynor Parry (Ysg) a Heulwen Rees (Trys)

Swyddogion yr Ysgol Sul: Gaynor Parry (Ysg) a Heulwen Rees (Trys)

Swyddog Iechyd a Diogelwch: Brynmor Thomas

Trefnydd Rhestr Flodau: Margaret Holmes

Gofal y Gronfa Gymdeithasol: Rachel Arnold

OEDFAON
Oedfa'r Sul am 10.30 o'r gloch y bore.
Cymundeb ar fore Sul cyntaf bob mis.
Cwrdd Gweddi nos Lun olaf y mis am 7.00



10.11.13

CADOEDIAD CAPEL SARON

Bore Sul Tachwedd 10fed, a'r haul yn gwenu daeth cynulliad o tua 150 i Gapel Saron i gadw'r ddefod o gofio aberthau rhyfeloedd byd a gweddio am ddyfodol di-ryfel. Arweiniwyd y cyfarfod gan ein Gweinidog a chafwyd anerchiad rhagorol gan Lt. Emilly Jordan, Byddin yr Iachawdwriaeth Rhydaman. Wrth yr organ oedd y chwaer Roseanne Williams; chwareuwyd y trwmped ar gyfer y "Last Post" a'r "Reveille" gan Huw Thomas, a chyhoeddwyd y geiriau cyfarwydd "They shall not grow old..." gan Major Ken Burton. Darllenwyd o'r Hen Destament gan Anne Owen - Eglwys Dewi Sant Saron, ac o'r Testament Newydd gan Catrin Clarke ar ran y Capel. Cynorthwywyd y Gweinidog i dderbyn y baneri yn y Capel gan D.Gwyn Davies -Eglwys Dewi Sant. Gwnaed casgliad ar gyfer y "British Legion" a chroesawyd nifer dda o fudiadau lleol. Gosodwyd 13 o rithiau wrth y gofeb. Yn y lluniau gwelwch y Gweinidog a D.G.Davies yn derbyn y baneri yn y Capel. Yna Catrin yn darllen. Lt Jordan yn cyflwyno ei hanerchiad. Y baneri'n cael ei gostwng i swn y "Last Post." Y "Brownies" ar eu ffordd i osod eu rith, a'r brawd Dewi Daniel yn gosod rith y Capel, a'r gofeb a'r rithiau arni.

8.11.13

Shwl-di-Mwl

Daeth y cwmni "Shwl-di-Mwl" ag amrywiaeth o ddillad plant i sioe ffasiynau gynhaliwyd yn Ysgol Gynradd Saron Rhydaman nos Iau Tachwedd 8fed. Pwyllgor lleol, o dan arweiniad Shirley Taylor oedd wedi trefnu hyn, ymhlith nifer o ddigwyddiadau diddorol eraill i godi arian ar gyfer 'Steddfod Genedlaethol Sir Gar i'w chynnal yn Llanelli yn 2014. Plant yn perthyn i Gapel Saron ac i'r ysgol oedd y modelau. Ar ddiwedd noson hynod lwyddiannus roedd cyfle i bobl brynu neu archebu dillad, a mwynhawyd
gwin a "cup cake" gan bawb cyn troi am adref. Diolch i'r brawd Owen Young am ddod a'i gynnyrch i'w arddangos er budd achos teilwng. Yn y lluniau gwelwch rai o'r ifanc fuont yn cerdded "Rhodfa'r-Gath"(Cat Walk) i ddangos y dillad.

4.11.13

CROESO ADREF

Ar Sul Tachwedd 3ydd gwelwyd y Dr Eiddon Davies ai briod Heather yn ymuno a Chapel Saron fel llawn aelodau. Cyn ymddeol bu Dr Davies yn feddyg yn Killay ger Abertawe. Mae'n fab i'r enwog Agnes Davies, pen campwriag snwcer Prydain yn ei dydd, ac yn aelod ffyddlon o'r Capel fel ei phriod Dick Davies. Y mae gan Eiddon a Heather ddau o blant a phump o wyron. Dymunen yn dda iddynt ac edrychwn ymlaen at ei cmwni yn yr addoliad am flynyddoedd i ddod. Daeth un arall adref yn yr un oedfa, sef Mr Brynmor Thomas un o feibion ffermdy Cwmbach Saron. Bu mam Brynmor byw hyd at ei 101, ac y mae cysylltiadaur teulu yn rhai chynnes a chlos iawn a'r Capel. Y mae yntau yn dad i un merch ac yn dadcu. Hyderwn gael llun ohono yntau maes o law, Ond y tro hwn
Dr Davies ai wraig sydd yma. Bendith arnynt i gyd.