Capel Saron Rhydaman
Gweinidog: Y Parchg E. Lyn Rees, B.A., B.D.

Diaconiaid:
Y Chwiorydd: Gaynor Parry; Jane Picouto; Rachel Arnold; Janet Jones; Gwenda Easton; Christine Rees.

Y Brodyr: Dewi Daniel ; Wynne Williams; Osian Rees; Rowland Jones.

Diaconiaid Emeritus: Y Brodyr Douglas Davies a Brynmor Morris; Y Chwaer Edwina Dent

Swyddogion:
Ysgrifennydd: Gaynor Parry
Trysorydd: Wynne Williams
Ysgrifennydd Ariannol: Margaret Holmes
Ysgrifennydd y Fynwent: Rowland Jones
Cyhoeddwyr: Dewi Daniel a Rachel Arnold
Organyddion: Eirwyn Richards a Rosanne Williams

Swyddogion y Chwiorydd: Gaynor Parry (Ysg) a Heulwen Rees (Trys)

Swyddogion yr Ysgol Sul: Gaynor Parry (Ysg) a Heulwen Rees (Trys)

Swyddog Iechyd a Diogelwch: Rowland Jones

Trefnydd Rhestr Flodau: Margaret Holmes

Gofal y Gronfa Gymdeithasol: Rachel Arnold

OEDFAON
Oedfa'r Sul am 10.30 o'r gloch y bore.
Cymundeb ar fore's Sul cyntaf bob mis.
Cwrdd Gweddi bob nos Lun olaf y mis am 7.00 o'r gloch



4.2.12

Dal 'fyny







Cawsom gyfnod Nadolig 2011 prysur a bendithlon. Cynhaliwyd ein hoedfa Drama'r Geni ar Sul Rhagfyr 18fed. Cymerwyd rhan gan y plant a'r ieuenctid, a hynny'n raenus iawn diolc'h ir ddwy athrawes Gaynor a Heulwen.

Yn yr un oedfa cyflwynwyd Nel merch fach John a Natalie McWilliam, a Harrti mab Robert a Rachel Holmes - i ofal Duw a'i Eglwys

Yn yr hwyr cynhaliwyd Cyngerdd Nadolig y Pentref. Darllenwyd yr Yasgrythur gan Nia Salini ar ran y Capel ac Ann Owen ar ran Eglwys Dewi Sant Saron. Un o uchafbwyntiau'r noson oedd cyfraniadau cyfoethog parti o blant yr ysgol gynradd leol. Yna cafwyd cynnau Canhwyllau Cariad, dros gant ohonynt, er cof am annwyliaid gollwyd yn ystod y flwyddyn.

Roedd elw'r noson yn mynd fel arfer i "Shelter Cymru" a braf oedd cael cynrychilwor yn bresennol i esbonio ychydig am waith yr elusen. Agorwyd llygaid llawer o glywed ei eiriau. Aeth oddi yno a tua £650 at y gwaith.

Er bod cymundeb cyntaf y flwyddyn newydd yn syrthio ar Ionawr 1taf, daeth 27 o amgylch y bwrdd. Y Sul canlynol dosbarthwyd gwobrau i blant yr Ysgol Sul am eu ffyddlondeb yn ystod 2010.

Cychwynyd gyflwyno Just10 ar nos Lun Ion 9fed. Cyfres yw o ddarlithoedd hynod afaelgar ar y Deg Gorchymyn gan y Canon J John ar DVD. Byddwn yn gwylio un wythnos ac yn trafod yn nesaf - am y nail. Faint ddaw? 14 fel arfer.

Cafodd y Capel golled pan fu farw'r brawd Brynmor Morris ar Ion 24. Cafodd angladd parchus iawn dydd Iau Chwefror 2ail. Bu Brynmor yn ddiacon ac yn drysorydd ffyddlon Prin medrir fforddio colli ei fath. Rhaid serch hyny wynebu ar y flwyddyn newydd a gwenud y gorau o'n hamser ynddi er llwyddiant yr Efengyl.

19.12.11

Rhodd


Nos Iau Rhagfyr 15.
Noson agored yn ysbyty Gymunedol Glanaman.I helpu'r "League of Friends" i gynnig gwellianau yn yr ysbyty aeth y Gweinidog ai briod yno a siec o £425 oddi wrth Gapel Saron. Cyflwynwyd hi i'r trysorydd - Mr Arwel Davies.

Gwelir lawer o henoed pentref a chapel Saron yn diolch amdani pan fydd angen. Byddai'r holl ardal yn dlotach pe baech hi'n cael ei chau.

14.11.11

Sul y Cadoediad Tachwedd 13eg

Daeth tua 200 i oedfa'r Cadoediad yn y capel. Fel arfer ymunodd aelodau Eglwys Dewi Sant Saron gyda ni. Darllenwyd o'r Hen Destament yn Saesneg gan Anne Owen (Eglwys), ac o'r Testament Newydd yn Gymraeg gan Mia Jones (Capel). Neils Richards oedd wrth yr organ. Traddodwyd neges bwrpasol ac amserol gan ein Gweinidog - Parchg E Lyn Rees. Cawsom ein hatgofio am y rhyfela presennol yn erbyn y ffydd Gristnogol ar draws y byd.

Cynorthwywyd yn y Capel drwy dderbyn y baneri, ac yn yr Ardd Goffa drwy ddarllen enwau'r rhai gollwyd yn rhyfeloedd 1914-1918, a 1939-1945, gan D Gwyn Davies (Eglwys). Y trwmpedwr oedd Huw Thomas, a Major Ken Burton adroddodd y geiriau cyfarwydd "They shall not grow old..."

Gosodwyd rithiau gan - Y British Legion, RAFA, ATC, Cyngor Cymuned Llandybie, Pwyllgor Neuadd Saron, Brownies Saron, Ysgol Gynradd Saron, y WI, Clwb pel Droed Saron, Eglwys Dewi Sant, a Chapel Saron.

Annisgwyl

Gwener Tachwedd 11eg
Pwy fyddai wedi mentro darogan y byddwn yn cynnal angladd y brawd Malcom Stuart Parry heddiw? Gwr cadarn ym mhob ystyr - o ran corff a chymeriad. Un uchel ei barch mewn ardal lydan - fel cyn ddirprwy brifathro Ysgol Tregib Llandeilo, a chymnwynaswr parod i bentref Saron a'r Capel. Ond yn 60 oed galwyd ef adref union wythnos yn ol, gan adael Gaynor ei annwyl wraig, a Sara ei unig ferch, mewn penbleth a dagrau. Roedd yn galed hefyd ar ei fam Mrs Olwen Parry, ai chwaer Shirley, i ymdopi a'r sefyllfa.
Daeth dros 400 i'w angladd yng Nghapel Saron, lle talwyd terynged ddwys iddo gan ei weinidog y Parchg E Lyn Rees. Cynorthwywyd ef gan y Parchedigion Vivian Rees, Albert Williams, Carl Williams a John Talfryn Jones. Claddwyd corff Stuart ym mynwent y Capel.

9.10.11

Diolchgarwch





Hydref 9fed, bore Sul llaith pan gynhaliwyd ein cyfarfod Diolchgarwch blynyddol. Roedd y chwiorydd wedi addurno'r Capel yn hyfryd gan roddi awyrgylch Hydrefaidd iddo, a'r gwres canolog yn erlid y naws oeraidd tu allan.

Gwelwyd aelodau'r Ysgol Sul yn cymryd y rhannau blaenllaw o dan gyfarwyddyd yr athrawesau Gaynor Parry a Heulwen Rees. Daethant hefyd a rhoddion o ffrwythau a llysiau fydd yn cael eu rhannu ymhlith ein henoed (dros 80 oed), aelodau sal neu mewn cartref, gan y chwaer Rachel Arnold a'r Gweinidog.

Y thema elenni oedd diogelu'r hinsawdd a brwydro yn erbyn gwastraff. Roedd y neges yn amserol ac wedi ei osod mewn ffurf ddiddorol ddaliodd sylw'r gynulleidfa. Mewn sylwadau byr pwysleisiodd y Parchedig bwysigrwydd blaenllaw y ffermwr- heb fwyd, heb ddim!

Wedi'r oedfa cafwyd cinio blasus yn y Festri cyn ymadael am adref.

12.8.11

Hysbysebu



Slawer dydd 'roedd pawb bron yn gwybod beth oedd yn digwydd yn y Capel, a phryd. Heddiw ni ellir cymryd hynny'n ganiataol. Felly penderfynnodd y swyddogion osod baner ar y lawnt flaen yn cyhoeddi amser ein cyfarfod wythnosol. Os fydd hwn yn llwyddiant yna fe welir rhagor yn son am ein Cymundeb misol ac unrhyw weithgaredd neu ddigwyddiad arall a gynhelir. Mae'n amlwg bod hysbysebu'n gweithio i fusnesau'r byd a gweddiwn ar iddo weithio hefyd i ni ac y gwelwn ragor yn troi i mewn i addoli Duw gyda ni.

31.7.11

Gorff 31. '11


Gydag ymddiheuriad, am fod mor fler, heddiw rhoddwyd llongyfarchiadau i'n chwaer Liz Cudworth ar gyrraedd yr oedran o 96, y Sul diwethaf! Liz yw ein aelod hynaf o ran oedran. Y maen brawd sef Douglas Williams yn ei chanlyn yn agos yn 95 oed. Ef yw ein aelod hynaf o ran aelodaeth a bu'n Ddiacon defnyddiol am flynyddoedd nes ymddeol a gorfod derbyn gofal Cartref Henoed. Hyderwn y cawn gadw'r ddau am flynyddoedd eto.