Capel Saron Rhydaman
Gweinidog: Y Parchg E. Lyn Rees, B.A., B.D.

Diaconiaid:
Y Chwiorydd: Gaynor Parry; Jane Picouto; Rachel Arnold; Janet Jones; Gwenda Easton; Christine Rees.

Y Brodyr: Dewi Daniel; Osian Rees; Rowland Jones.

Swyddogion:
Ysgrifennydd: Gaynor Parry
Trysorydd: Janet Jones
Ysgrifennydd Ariannol: Margaret Holmes
Ysgrifennydd y Fynwent: Rowland Jones
Cyhoeddwyr: Dewi Daniel a Rachel Arnold
Organyddion: Eirwyn Richards a Rosanne Williams

Swyddogion y Chwiorydd: Gaynor Parry (Ysg) a Heulwen Rees (Trys)

Swyddogion yr Ysgol Sul: Gaynor Parry (Ysg) a Heulwen Rees (Trys)

Swyddog Iechyd a Diogelwch: Brynmor Thomas

Trefnydd Rhestr Flodau: Margaret Holmes

Gofal y Gronfa Gymdeithasol: Rachel Arnold

OEDFAON
Oedfa'r Sul am 10.30 o'r gloch y bore.
Cymundeb ar fore Sul cyntaf bob mis.
Cwrdd Gweddi nos Lun olaf y mis am 7.00



14.6.14

ANIFEILIAID ANWES

Bore Sul Mehefin 8fed, daeth nifer at ei gilydd i oedfa gynhaliwyd ar y maes parcio. Pam hynny? Wel oedfa oedd hi i ddiolch i Dduw am ein hanifeiliaid anwes - ein Pets! Bydd rhain yn gwmni ac yn ddiddanwch i lawer, a iawn yw cydnabod ei cyfraniad i'n hapusrwydd. Cafwyd darlleniadau pwrpasol yn cyfeirio at wahanol greaduriaid. Ni anghofiwyd 'Swansea Jack' achubodd 27 o bobol rhag boddi yn nociau Abertawe. Clywyd am y Gwcw. Aderyn ffals yn ol y bardd y Parch W.D.Roberts -"Mi glywais am ei chastiau, os yw ei chan yn iach, yn gadael ei holl wyau yn nythod adar bach." Moeswers amlwg yn y fan hon! Darllenwyd "Yr Anifeiliaid Caredig" stori o lyfr "Am Fyd" Huw John Huws gan Bella Salini. Ni ellid peidio a chyfeirio at stori drist ond addysgol Gelert a laddwyd oherwydd amryfusedd y tywysog. Eraill yn cymryd rhan oedd Gaynor, Christine, Gill a Heulwen; a darllenodd Dewi Salm 8 lle cawn ein atgofio am ein safle yn y cread, a'n cyfrifoldeb iddo. Roedd Megan a'i thad wedi dod a'r sbaniel. Lydia a thri pysgodyn aur, Eoin ag Orla a'r ci, Sion a Winwns y gwningen a nifer arall a chreaduriad. Do, bu'n oedfa fendithiol dan awyr oedd las ac yn glir. Ni fu canu emynau. Ni thynnodd hynny unrhyw sylw. Tybed os ydym yn canu gormod yn ein hoedfaon a'r sylwedd y diflannu yn y swn?

7.6.14

DAL I FYNY

Raid cychwyn gyda ymddiheuriad am y gwacter diweddar yn yr hanes am ddigwyddiadaur Capel. Felly ati heb golli rhagor o amser. Fel y gwyr rhai y mae Capel Saron yn dathlu 200 mlynedd elenni. I dynnu sylw at hynny rhoddwyd baner sylweddol ar y lawnt o flaen y Capel Newydd adeiladwyd yn 1912, yn cyhoeddi - "YMA O HYD" "STILL HERE" 1814-2014 yn fras ac amlwg arno. Hefyd atgofiwyd pobol yn mynd heibio am y Pasg drwy osod Croes sylweddol ar ochor arall y lawnt. Cafwyd dathliadau hapus, hwylus a llwyddiannus. Ar nos Fercher Ebrill 2ail cynhaliwyd cyngerdd. Roedd y Capel yn gyfforddus lawn i fwynhaur gwahanol eitemau. Hyfryd oedd cael presennoldeb y Parch Eirian Wyn - Llywydd yr Undeb - a'i gyfarchion yn ddiffuant a chalonogol. Gwnaed casgliad o £239.50 ar gyfer Banc Bwyd Rhydaman. Bore Sul canlynol cafwyd Gymundeb Undebol gyda aelodau o eglwys Bedyddiedig yr ardal yn dod at eu gilydd ynghyd a Methodistiaid o Gapel Hendre, ag Eglwyswir o Eglwys Dewi Sant - Saron. Rhanwyd yr oedfa rhwng ein Gweinidog a'r Parch John Talfryn Jones Ebeneser Rhydaman. Gwelwyd dros 150 yn cymryd Cymundeb mewn awyrgylch frawdol a chynnes. Mai 9fed: Cynhaliwyd noson o "Bwdin a Paned." Y diben oedd codi arian ar gyfer Cymorth Cristnogol. Profwyd bod hon yn llwyddo'n well na chrwydro o ddrws i ddrws, dull allai fod yn draferthus a gorfod dioddef ambell gyfarchiad tra sarhaus! Erbyn i bob ceiniog ddod i fewn roedd y swm yn £276. Sul Mehefin 1af: Wedi mis o rybudd pleidleisiodd yr aelodau mewn balot gudd yn erbyn cynnal priodasau "un rhyw" yn y Capel.
Deallwyd na fyddai'n Gweinidog yn barod i weinyddu yn y math yna o "briodas." Gresyn bod hyn yn cael ei orfodi ar Eglwysi Iesu Grist.