Dyma rai lluniau o'r Cadoediad yn y Capel ar Sul Tachwedd 13. Gwelir y Gweinidog a'r brawd Mr D. Gwyn Davies yn derbyn baneri - British Legion a'r A.T.C, Cor Persain, yna y biwgler Huw Davies a Major Ken Burton adroddodd y geiriau "They shall not grow old..." a'r Gweinidog a Mr Davies yn darllen rhestr y rhai a gollwyd.
15.11.16
13.11.16
Cadoediad
Ar fore braf o Hydref daeth cynulleidfa o dros gant i'r Capel ar gyfer ein Cadoediad blynyddol. Yn bresennol oedd ein gwleidyddion lleol - Alun Davies a Peter Cooper, y British Legion a'r A.T.C. Yn newydd oedd presennoldeb cor merched - "Persian" o dan ei harweinydd medrus Anne Wheldon ar cyfeilydd Catherine Morgan. Cawsom ddau ddarn addas iawn i'r achlysur greodd awyrgyll ddwys a myfyrgar. Darllenwyd ar ran Eglwys Dewis Sant, Saron, gan Anne Owen ac ar ran y Capel gan Fion Clarke. Y cyntaf yn Saesneg ar ail yng Nghymraeg. Cafodd y Gweinidog help i dderbyn baneri a darllen y rhestr enwau wrth yr Ardd Goffa gan y brawd D Gwyn Davies. Y trympedwr oedd Huw Thomas a'r brawd Ken Burton adroddodd y geiriau - "They shall not grow old..." Gosodwyd 11 o rithau gan gynrhychiolwyr mudiadau'r ardal. Daliodd y Gweinidog sylw'r gynulleidfa drwy dynnu sylw at Faniffesto Crist fel Cadfridog - Luc 4: 18-19. Cadfridog oedd yn barod i farw dros ei ganlynwyr. Nododd hefyd eiriau Paul yn Ephesiaid 6:16-18 a'r angen dwys ar i'r credadyn wisgo'r holl arfogaeth ddwyfol yn y frwydr yn erbyn pwerau'r tywyllwch.
Nos Fercher nesaf, rhwng hanner awr wedi chwech ag wyth bydd gan y Capel noson 'Paned a Chacen' i godi arian ar gyfer apel Cymorth Cristnogol -"Cofiwch y Fam" Gobeithiwn y medrwn lawr lwytho lluniau o'r ddau achlysur yn ein Blog nesaf.
Nos Fercher nesaf, rhwng hanner awr wedi chwech ag wyth bydd gan y Capel noson 'Paned a Chacen' i godi arian ar gyfer apel Cymorth Cristnogol -"Cofiwch y Fam" Gobeithiwn y medrwn lawr lwytho lluniau o'r ddau achlysur yn ein Blog nesaf.
7.11.16
Cais am Weddi
Ddoe yn ein hoedfa Gymundeb mentrwyd ar arbrawf syml. Rhoddwyd blwch copr bach ar hambwrdd yn y lobi, ac wrtho gardie a biro. Gwahoddwyd yr aelodau ysgrifennu enw unrhyw un yr hoffent fod yn wrthych gweddi yn ystod yr oedfa. Ni fyddai neb ond hwy yn gwybod pwy oherwydd myfyrdod tawel fyddai'r gweddio gyda'r organ yn chware darn pwrpasol fel cefndir. Cymrodd rhai y cyfle. Teimlwn y bydd yr arfer hwn yn raddol ennill ei le ac yn dod yn rhan o batrwm ein haddoliad. Yn y llun fel welwch y blwch a'r hambwrdd etc.
Mae pawb yn edrych ymlaen at y Sul nesaf pan gynhaliwn ein hoedfa Gadoediad flynyddol. Y tro hwn bydd gennym gor Persain yn canu. Mae'n siwr y byddont yn ychwangeu at y awyrgylch dwys y gwasanaeth.
Mae pawb yn edrych ymlaen at y Sul nesaf pan gynhaliwn ein hoedfa Gadoediad flynyddol. Y tro hwn bydd gennym gor Persain yn canu. Mae'n siwr y byddont yn ychwangeu at y awyrgylch dwys y gwasanaeth.
Subscribe to:
Posts (Atom)