22.4.13
CYNGERDD ELUSEN DEMENTIA
Nos Sul Ebrill 21ain, am saith, cynhaliwyd Cyngerdd yn y Capel i godi arian at waith Elusen Dementia yn Nyffryn Aman. Bu'r paratoi yn brysur ac yn drylwyr. Gosodwyd posteri, gwerthwyd tocynnau a sicrhawyd gwasanaeth parod a rhadlon Cor Persain o dan ei arweinydd Anne Weldon, cor plant Ysgol Gynradd Saron o dan arweiniad Karen Evans, a Quintet Pres Nils Richards.
Boddhawyd tyrfa gref gan yr eitemau a chafwyd eglurhad gan Mrs Dorothy McDonald o'r gwaith wneir gan yr Elusen yn y Cwm. Pwysleisiodd bod y clefyd hwn ar gynnydd yn ein plith a bod y paratodau ar gyfer ei wynebu yn brin ac annigonol. Awgrymodd bod gennym lawer i ddysgu oddi wrth yr Alban, sy' mae'n debyg, ym mhell o'n blaenau yn y frwydr.
Ar y noson da oedd cael cwmni'r chwaer Sian Thomas, Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin, ai phriod David, ynghyd a Mrs Rosemary Cole Trysorydd yr Elusen. Yn un o'r lluniau gwelir ein Gweiniodg yn cyflwyno siec o £977.00, sef elw'r noson i Mrs McDonald.



4.4.13
Cymundeb y Pasg.
Gwelwyd llewyrch eto ar yr oedfa bwysig hon yng Nghapel Saron, gyda dros ddeugain o addolwyr yn bresennol. Nododd y Gweinidog mai angen pobol Gristnogol sydd ar y byd nid pobol grefyddol. Nid yw hanes rheini yn persawru pa grefydd bynnag y perthynant iddi. Prin bod angen dadlau'r pwynt yna!
Pregeth mewn Pren: Gosodwyd croesbren sylweddol ar lawnt flaen y Capel wythnos y Pasg. Ei diben yw tynnu sylw at yr adeg bwysig hon ym mywyd yr Eglwys a'i neges o gariad aberthol Duw tuag at y byd.
Subscribe to:
Posts (Atom)